Adnoddau adolygu cyfrwng Cymraeg hanfodol i ddysgwyr TGAU a TAG

Os ydych chi'n paratoi ar gyfer eich arholiadau cyfrwng Cymraeg ac yn chwilio am adnoddau adolygu o safon, does dim angen i chi edrych ymhellach!

Isod rydyn ni wedi nodi rhai llwyfannau gwych sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich astudiaethau.

Sylwer: Nid yw CBAC yn cymeradwyo unrhyw adnoddau allanol nac yn gyfrifol am unrhyw gynnwys sydd ar y gwefannau allanol.

 

Adolygu cyffredinol / Pob pwnc

Mae ein llwyfan Adnoddau yn hynod ddefnyddiol i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg, ac mae'n cynnig cefnogaeth ar draws amrywiaeth eang o bynciau TGAU a Safon Uwch. Gydag adnoddau wedi'u trefnu yn ôl testunau ac unedau unigol, ac wedi'u rhannu'n glir yn ôl lefel, mae'r deunyddiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer astudio annibynnol ac adolygu cysyniadau allweddol ar eich cyflymder eich hun.

Os yw'n well gennych chi adnoddau adolygu ffisegol, yn hytrach na rhai ar-lein, yna byddai ein llyfrau adolygu o fudd i chi. Fel ein llwyfan ar-lein, mae gennym ni amrywiaeth o lyfrau adolygu pwnc-benodol sy'n cynnwys crynodebau o fodiwlau, awgrymiadau ar sut i adolygu, cynllun adolygu hawdd ei ddilyn a mwy!

Mae Hwb a Carlam Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o ddeunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg. Ymysg y deunyddiau mae canllawiau adolygu, fideos, ac adnoddau rhyngweithiol a fydd yn helpu i wella eich gwybodaeth am y pynciau a'r unedau. Mae gan Carlam Cymru ap a sianel YouTube hefyd, felly mae'r cynnwys yn hygyrch ac yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr.

 

Adolygu Mathemateg

Mae safle Mathemateg.com yn lle da i fynd i weld deunydd sy'n amrywio o waith Blwyddyn 7 i waith Safon Uwch. Gallwch chi ailedrych ar yr hanfodion i gyd a chyfeirio at ddeunydd sy'n benodol i'ch arholiadau chi. Mae gan y wefan amrywiaeth o adnoddau hefyd, o gemau penodol i fathemateg i flogiau ar gysyniadau penodol.

Os yw'n well gennych chi adolygu drwy wylio fideos, yna edrychwch ar sianel YouTube yr un crewyr: Adolygu Mathemateg. Mae testunau ac unedau yn cael eu rhannu'n ddarnau llai gydag enghreifftiau hefyd yn cael eu rhoi i chi weithio drwyddyn nhw wrth i chi wylio'r fideos.

I'r rhai ohonoch chi sy'n hoff o fideos byrrach, beth am edrych ar eu TikTok – Maths Mewn Munud! Perffaith ar gyfer adolygu munud olaf ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le, neu hyd yn oed ar gyfer ymarfer dyddiol.

 

Adolygu Gwyddoniaeth (TGAU)

Mae Tanio yn llwyfan adolygu gwyddoniaeth sy’n rhoi esboniadau clir o destunau ynghyd â chardiau fflach parod i gefnogi adolygu effeithiol. Mae adnoddau ar gael ar gyfer Bioleg, Cemeg a Ffiseg, ac maen nhw wedi'u llunio'n benodol ar gyfer dysgwyr TGAU Dwyradd.

Mae pob testun yn cynnwys gweithgareddau adolygu rhyngweithiol, gan ei gwneud hi'n haws dysgu mewn ffordd sy'n addas i chi, p'un a yw'n well gennych chi wrando, gwylio, neu adolygu ymarferol.

Noder: mai dim ond i'r rhai sy'n sefyll eu hasesiadau terfynol yn haf 2027 y bydd yr adnoddau hwn yn berthnasol. I'r rhai a ddechreuodd ddilyn ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd yn y gwyddorau ym mis Medi 2026, byddwn yn cyhoeddi adnoddau/cysylltau yn fuan. Cysylltwch â'ch ysgol/coleg i gael y wybodaeth ddiweddaraf.


 

Mae'n bwysig archwilio amrywiaeth o lwyfannau a sicrhau eich bod yn gofyn i'ch athrawon am argymhellion gan y bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi!

Os ydych chi'n edrych i wella arferion astudio, edrychwch ar ein blogiau cefnogi myfyrwyr diweddaraf '3 syniad/strategaeth ymarferol ar gyfer dysgu ac adolygu', a '5 Rheswm y dylech chi ddefnyddio cyn-bapurau wrth adolygu’.