TGAU Dylunio a Thechnoleg - Dysgu o 2026

Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwncbenodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd y cymhwyster:

  • drwy'r broses ddylunio a datblygu, yn caniatáu i ddysgwyr archwilio ac ymateb i gyddestunau amrywiol ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys. 

Mae'r datganiadau canlynol ar gyfer y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn seiliedig ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig gan  Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg: 

  • mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau 
  • mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas
  • mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
  • mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau • mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd
  • mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol.

Bydd y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi'r egwyddorion cynnydd:

  • effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr drwy ddatblygu eu defnydd o sgiliau
  • ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol drwy archwilio a phrofi syniadau a chysyniadau cynyddol gymhleth
  • dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau a phrofiad
  • datblygu gallu dysgwyr i ymchwilio, archwilio, datrys problemau a dylunio yn yr amgylcheddau ffisegol a digidol
  • caniatáu i ddysgwyr wneud cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu i gyd-destunau newydd
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu adnoddau i gefnogi'r testunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymhwyster Gwneud-i-Gymru Newydd hwn. Mae'r rhestr o adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y pwnc hwn isod.

Gwybodaeth a dealltwriaeth graidd  Technolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg
Defnyddiau modern a chlyfar
Dylunio cynaliadwy
Storio egni ac adnewyddadwyedd
Meddylfryd dylunio cyfoes; dylanwadau hanesyddol a diwylliannol
Dylunio Peirianyddol Metelau fferrus ac anfferrus
Polymerau thermoffurfiol a thermosodol
Defnyddiau a thechnoleg modern, clyfar a’r rhai sy’n dod i’r amlwg
Systemau rheoli ac electronig
Grymoedd a symudiad
Triniaethau a gorffeniadau arwyneb
Ffurfiau stoc defnyddiau a chydrannau
Gweithgynhyrchu peirianyddol a diwydiant
Ffasiwn a thecstilau  Ffibrau naturiol, synthetig, wedi blendio a chymysg
Tecstilau wedi'u gwehyddu, wedi'u gwau a heb eu gwehyddu
Tecstilau technegol
Defnyddiau modern a chlyfar
Ffurfiau stoc defnyddiau a chydrannau
Triniaethau a gorffeniadau arwyneb
Technegau a phrosesau arbenigol
Y diwydiant ffasiwn a thecstilau
Dylunio Cynnyrch  Pren naturiol a chyfansawdd
Plastigion thermoffurfiol a thermosodol
Deunyddiau clyfar a modern
Technegau a phrosesau arbenigol
Triniaethau a gorffeniadau arwyneb
Ffurfiau stoc defnyddiau a chydrannau
Gweithgynhyrchu peirianyddol a diwydiant
  • Cyrsiau i ddod
photo of Jason Cates
Oes gennych chi gwestiwn?
Jason Cates ydw i
phone_outline 02922 404 303
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Jason Cates
phone_outline 02922 404 303
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?