TGAU Celf a Dylunio
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll Uned 2 ym mis Ionawr 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2025 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer TGAU Celf a Dylunio - Dysgu o 2025
Bydd Adroddiadau’r Uwch Arholwyr ac Uwch Gymedrolwyr yn cael eu rhyddhau ar 30ain Medi 2025, ac eithrio’r TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd. Rhyddhawyd yr adroddiadau hyn ar 1af Medi 2025. Bydd yr holl adroddiadau ar gyfer cyfresi arholiadau Tachwedd ac Ionawr yn cael eu rhyddhau ar ddiwrnodau’r canlyniadau fel arfer.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma >
Mae ein manyleb TGAU Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu i'r myfyrwyr sy'n ddiddorol, heriol, cydlynol ac ystyrlon gydag elfen o hyblygrwydd sy'n cefnogi datblygu arfer creadigol mewn ffordd ddilyniannol a chynyddol.
Drwy gyfrwng rhaglen astudio sy'n gwobrwyo ac yn ddeniadol, mae'r fanyleb hon yn ehangu profiad, yn datblygu'r dychymyg a sgiliau technegol, gan feithrin creadigrwydd a hybu datblygiad personol a chymdeithasol.
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddiant
Gweld ein adnodd ar-lein ar gyfer athrawon a myfyrwyr celf.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.

