TGAU Astudiaethau Crefyddol - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
 - deall profiadau dynol yn well
 - dysgu sut gall amrywiol fydolygon a ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a dehongliadau nhw eu hunain a rhai pobl eraill
 - datblygu gwerthfawrogiad o sut mae cyd-destunau'n dylanwadu ar lunio naratifau a chynrychioliadau
 - datblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, blwraliaethol ac amrywiol cymdeithasau
 - gwerthfawrogi'r rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys credoau crefyddol ac anghrefyddol a bydolygon
 - datblygu dealltwriaeth gyffredin o amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau yn eu hardal leol, Cymru a'r byd ehangach
 - archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau ac egwyddorion sydd wrth wraidd ac yn llywio cymdeithas ddynol.
 
 - Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
 - ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn
 - gwneud penderfyniadau wedi'u hategu mewn cyd-destunau mwy cymhleth
 - dod i ddeall y byd o'u cwmpas mewn ffordd sy'n gynyddol glir ac ystyrlon
 - symud ymlaen i ymwybyddiaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar fywydau pobl eraill, yn eu cyd-destun cymdeithasol eu hunain ac mewn mannau eraill yn y byd
 - defnyddio tystiolaeth i lunio ac ategu ateb, a chysylltu hynny â sut mae canlyniadau ymholiad wedi'u cynrychioli a'u dehongli.
 
 
Mae'r cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwncbenodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Astudiaethau Crefyddol. Bydd y cymhwyster yn:
- darparu cyfleoedd i ddeall credoau, dysgeidiaethau, arferion, argyhoeddiadau athronyddol, gwerthoedd a phrofiadau crefyddol ac anghrefyddol o safbwynt lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
 - darparu cyfleoedd i chwilio am atebion i'r cwestiynau athronyddol pennaf fel pwrpas ac ystyr bywyd
 - darparu cyfleoedd i archwilio seiliau safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol a dylanwad argyhoeddiadau crefyddol ac anghrefyddol ar ein cymdeithas blwralistaidd ac amrywiol dros amser
 - sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau i archwilio materion athronyddol a moesol, myfyrio ar eu credoau a'u gwerthoedd eu hunain, ac ar gredoau a gwerthoedd pobl eraill
 - darparu cyfleoedd i ddatblygu empathi, creadigrwydd, chwilfrydedd, gwydnwch, goddefgarwch ac ymdeimlad o gynefin a phrofiadau dynol yn y byd naturiol.
 
Bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol hefyd yn seiliedig ar y cysyniadau sylfaenol eang canlynol, y mae sawl un ohonyn nhw'n treiddio trwy sawl uned i lefelau gwahanol o ehangder a dyfnder:
- Credoau
 - Cymuned
 - Cynefin
 - Argyhoeddiadau athronyddol
 - Arferion
 - Dysgeidiaethau
 - Gwerthoedd
 - Bydolygon
 - Y cwestiynau eithaf
 - Daioni a drygioni
 - Moeseg
 - Hawliau dynol
 - Bywyd ar ôl marwolaeth
 - Stiwardiaeth
 - Safbwyntiau crefyddol/anghrefyddol
 - Amrywiaeth
 - Hunaniaeth a pherthyn
 - Ffydd ar waith
 - Plwraliaeth
 
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >