Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd a Gwaith

Dysgu: Medi 2015
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Cymwysterau seiliedig ar unedau yw cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd a Gwaith CBAC. Mae'r rhain ar gael o radd Mynediad 1 i Lefel 3 ac yn cynnig y cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd digidol, cyflogadwyedd a rhif. Dull asesu pob uned yw portffolio 'mini' i'w asesu'n fewnol gyda'i ansawdd i'w sicrhau'n allanol.

Mae pob uned ar wahân, ac yn caniatáu felly i ddysgwyr ganolbwyntio ar y sgiliau penodol maen nhw am eu gwella neu am eu meistroli am y tro cyntaf. Parhau i esblygu mae'r sgiliau sydd eu hangen yn y byd gwaith. Mae cymwysterau SHBG CBAC yn cynnig strwythur dynamig i ddysgwyr ar gyfer paratoi at ofynion sy'n newid.

Mae SHBG CBAC yn addas ar gyfer dewis eang o ddysgwyr mewn lleoliadau gwahanol, yn eu plith:

  • pobl mewn addysg bellach;
  • oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu;
  • dysgwyr yn y gwaith;
  • addysg yn y gymuned a gwirfoddolwyr lleol;
  • staff addysgu;
  • pobl mewn addysg amgen;
  • pobl y nodwyd bod ganddynt 'fylchau sgiliau' yn yr hyn maen nhw'n gallu ei wneud ar hyn o bryd.

Gan fod yr unedau hyn yn deillio o'r gyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC), gellir ystyried cyflawniad SHBG fel llwybr dilyniant os yw'r dysgwr yn dymuno hynny.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
Oes gennych chi gwestiwn?
Cydlynydd Bagloriaeth Cymru a Sgiliau
person_outline Llinos Griffiths
Phone icon (Welsh) 029 2026 5096
Sgiliau Hanfodol Cymru
Phone icon (Welsh) 029 2026 5451
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.