TGAU Saesneg Iaith
Tachwedd 2022: Gwybodaeth ymlaen llaw - ar gael isod
Mae'r cymhwyster TGAU Saesneg Iaith hwn yn annog dull cyfun o ran llafaredd, darllen ac ysgrifennu fel bod gwaith ysgrifenedig a llafaredd yn cael eu hysgogi gan brofiadau darllen.
Bydd pob testun yn yr arholiad 'heb ei weld', hynny yw, ni fydd y dysgwyr wedi astudio testunau'r arholiad yn ystod y cwrs. Bydd TGAU Saesneg Iaith yn canolbwyntio'n bennaf ar agweddau ymarferol iaith.
Dylid ystyried y term 'ymarferol' yma yn yr ystyr eang o ddarparu'r sgiliau a'r galluoedd y mae eu hangen ar ddysgwyr i gyflawni rolau gweithredol a chyfrifol yn eu cymunedau, mewn bywyd bob dydd, y gweithle ac mewn lleoliadau addysgol.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Rhowch hwb i'ch addysgu gyda strategaethau Dysgu Cyfunol.
Darganfyddwch fwy yn y fideo isod:
Edrychwch ar ein dewis llawn o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM!
Datgloi potensial eich dysgwyr gydag ystod drawiadol o adnoddau digidol, offer addysgu a deunyddiau AM DDIM.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.



Awst
Awst