TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg - Dysgu o 2025
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
Hoffem gael adborth rhanddeiliad ar yr opsiynau rydym yn cynnig eu newid er mwyn wella hydrinedd y cymwysterau hyn. Rhowch adborth yma
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Saesneg Iaith a Llenyddiaeth – Uned 1
Rydym yn chwilio am athrawon Saesneg brwdfrydig i ymuno â'n tîm o arholwyr ar gyfer papurau’r cymhwyster Uned 1 TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth newydd.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Bydd y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy:
- Gefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n
- effeithiol
- rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a
- dealltwriaeth a meithrin perthnasoedd
- profi ac ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth amrywiol sy’n cynnig
- mewnwelediad i ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach
- tanio dychymyg a chreadigrwydd.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- tyfu'n holistaidd o ran eu dealltwriaeth a'u defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- cymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd
- datblygu sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith
- trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd gan gynnwys agweddau cymdeithasol a diwylliannol iaith.
- Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygiad iaith a dewis llenyddiaeth, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
-
- profi ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol er mwyn ysbrydoli siarad ac ysgrifennu pwrpasol
- profi cyfoeth o lenyddiaeth
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >