TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg - Dysgu o 2025
Dysgu Proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy:
- Gefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
- rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin perthnasoedd
- profi ac ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth amrywiol sy’n cynnig mewnwelediad i ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach
- tanio dychymyg a chreadigrwydd.
Cefnogi'r egwyddorion cynnydd, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- datblygu'n holistaidd o ran eu dealltwriaeth a'u defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- cymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd o datblygu sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith
- trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd gan gynnwys agweddau cymdeithasol a diwylliannol iaith.
Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygiad iaith a dewis llenyddiaeth, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- profi ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol er mwyn ysbrydoli siarad ac ysgrifennu pwrpasol
- profi cyfoeth o lenyddiaeth
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.