Tystysgrif Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau yn Haf 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2026 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 11, dylid eu cofrestru ar gyfer Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol - Dysgu o 2026
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Lluniwyd ein manyleb Lefel 2 – Mathemateg Ychwanegol i ymestyn yr ymgeiswyr mwyaf galluog.
Mae hefyd yn darparu cwrs astudio priodol a boddhaus ar gyfer ymgeiswyr sy’n cwblhau TGAU Mathemateg flwyddyn yn gynnar neu sy'n bwriadu dilyn cwrs Mathemateg ar lefel UG neu ddisgyblaeth gysylltiedig ôl-16.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.