TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu Mathemateg TGAU yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau ym mis Tachwedd 2026 a Mehefin 2027, os bydd galw am hynny.
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu TGAU Mathemateg - Rhifedd yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau ym mis Ionawr 2027 a Mehefin 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2025 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) - Dysgu o 2025
Bydd y fanyleb TGAU Mathemateg, a TGAU Mathemateg - Rhifedd, yn annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu symud a'u herio drwy ddilyn cwrs astudio eang, cydlynol, boddhaol a gwerth chweil.
Bydd yn helpu dysgwyr i ddatblygu hyder mewn mathemateg ac agwedd gadarnhaol tuag at fathemateg ac i sylweddoli pa mor bwysig a pherthnasol yw mathemateg yn eu bywydau bob dydd ac i'r gymdeithas. Bydd yn galluogi'r dysgwyr i werthfawrogi cydlyniad, creadigrwydd, ceinder a grym mathemateg.
Mae'r adnodd yma yn galluogi chi i greu papur cwestiynau o ddewis o filoedd o gwestiynau o gyn bapurau.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
WJEC/CBAC ENDORSED TITLES
Title |
ISBN |
9781471866418 |
|
9781471866449 |
NON-ENDORSED TITLES
Title |
ISBN |
9781510415690 |
|
9781510415706 |
|
9781510434776 |
|
9781510429567 |
|
9781510434783 |
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.
