TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) yn cael ei lunio ar sail y pum hyfedredd rhyngddibynnol sy'n ffurfio egwyddorion cynnydd Cwricwlwn Cymru mewn perthynas â'r Maes Mathemateg a Rhifedd. Bydd y cymhwyster yn:

  • darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth gysyniadol o gysyniadau a syniadau mathemategol
  • darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o ystod eang o iaith fathemategol a defnyddio symbolau i ddangos y cyfathrebu hyn
  • caniatáu i ddysgwyr ddangos eu bod yn gallu defnyddio a chymhwyso sgiliau mathemategol a rhifiadol yn ddidrafferth ac yn fanwl gywir
  • cefnogi dysgwyr i ddatblygu a chymhwyso rhesymu sy'n rhesymegol wrth gyfiawnhau a phrofi perthnasoedd rhwng cysyniadau
  • darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddangos cymhwysedd strategol yn annibynnol pan fyddant yn defnyddio syniadau mathemategol i ddatrys problemau.

 

Bydd cynnwys y cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) yn seiliedig ar y cysyniadau mathemategol a rhifiadol canlynol sy'n ffurfio datganiadau o'r hyn sy'n bwysig y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Maes Mathemateg a Rhifedd:

  • Rhif
  • Algebra
  • Geometreg a mesurau
  • Ystadegaeth a thebygolrwydd

 

Caiff agweddau ar bob cysyniad eu harchwilio ym mhob uned o'r cymhwyster. Mae hyn yn cefnogi'r datganiad 'mae gwahanol feysydd mathemateg yn hynod o ryng-gysylltiedig a dibynnol ar ei gilydd' sydd wedi'i gynnwys yn yr ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn. Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi cysylltiadau allweddol gyda Meysydd eraill o'r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys datblygu llythrennedd ariannol dysgwyr i gefnogi llesiant dysgwyr.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of John Williams
Oes gennych chi gwestiwn?
John Williams ydw i
phone_outline 029 2240 4251
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Ryan Walters
phone_outline 029 2240 4251
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
John Williams
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol