UG/Safon Uwch Ffrangeg
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Bydd y cyfnod asesu ar gyfer cynnal Arholiadau TGAU a TAG Siarad ar waith rhwng dydd Mawrth 1 Ebrill a dydd Mawrth 6 Mai 2025. Sylwer, ar gyfer Arholiadau CBAC UG Uned 1 Siarad, gall Swyddogion Arholiadau rannu'r deunyddiau â'r athrawon sy'n arholi hyd at dri diwrnod gwaith cyn dyddiad cyntaf yr asesiad yn y ganolfan. Rhaid storio'r deunyddiau'n ddiogel ar ddiwedd pob dydd.
Yn weithredol o gyfres arholiadau Haf 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu deunyddiau CD i ganolfannau ar gyfer asesiadau gyda chynnwys sain. Bydd y deunydd hwn ar gael i ganolfannau fel adnodd MP3 yn unig, y gellir ei lawrlwytho trwy ein safle Porth.
Mae ein manyleb UG/Safon Uwch Ffrangeg yn cynnig cyfle diddorol a chyffrous i ddysgwyr adeiladu ar eu hastudiaeth flaenorol o'r Ffrangeg.
Trwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol bydd dysgwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth ieithyddol a'u dealltwriaeth ddiwylliannol o'r gwledydd neu gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei siarad.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
![]() |
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.

