TGAU Dylunio a Thechnoleg
Mae ein manyleb TGAU Dylunio a Thechnoleg yn rhoi cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ddysgwyr adnabod a datrys problemau go iawn drwy ddylunio a gwneud cynhyrchion neu systemau.
Drwy astudio TGAU Dylunio a Thechnoleg, bydd dysgwyr yn barod i gymryd rhan yn hyderus a llwyddiannus mewn byd sy'n fwyfwy technolegol; a byddant yn ymwybodol o'r hyn sy'n dylanwadu'n ehangach ar ddylunio a thechnoleg, ac yn dysgu gan y dylanwadau hynny. Mae'r rhain yn cynnwys ffactorau hanesyddol, cymdeithasol/diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Gwobrau Arloesedd Gan weithio ar y cyd â Llywodreath Cymru, mae ein Gwobr yn annog pobl ifance yng Nghymru i fod yn arloesol yn dechnolegol gan werthfawrogi pwysigrwydd Dylunio a Thechnoleg. |
![]() |
Dathliad o Ddylunio a Thechnoleg Cymru, gan gydnabod a gwobrwyo'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau.
![]() |
![]() |
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.
