UG/Safon Uwch Drama a Theatr
Cadwch lygad am gylchlythyr mis Medi, a fydd yn esbonio sut rydym wedi diweddaru ein trefniadau o ran casglu ffurflenni datganiad y ganolfan. Bydd un cyswllt digidol yn awr yn cael ei ddefnyddio i gasglu'r holl ddatganiadau yn hytrach na'r dogfennau unigol y byddwch wedi arfer â nhw.
Mae terfyn amser newydd ar gyfer cyflwyno hefyd, sef 24 Mawrth. Mae hyn yn berthnasol i bob cymhwyster sydd â gofyniad am ddatganiad y ganolfan.
Llenwch Ffurflen Manylion y Ganolfan CBAC TAG erbyn 9 Hydref 2026 i wneud cais am arholwr ar gyfer CBAC TAG Uned 3 – Testun ar Waith. Dylai’r arholwr a ddyrannwyd gysylltu â chi yn ystod mis Ionawr i drefnu ymweliad.
Cyflwynwch yr holl farciau a gwaith sampl ar gyfer CBAC Lefel A/UG Uned 1 ar IAMIS drwy Porth. Bydd yn agor ar 1 Ebrill a'r terfyn amser yw 15 Mai. Pwysig: bydd ffolder grŵp a ffolderi ymgeiswyr unigol.
Noder bod y deunydd ysgogi ar gyfer CBAC TAG Safon Uwch Uned 3 i'w asesu yn 2026 yn unig ar gael ar wefan Porth CBAC erbyn hyn.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Mae ein cwrs UG/Safon Uwch Drama a Theatr yn gwrs cyffrous ac ysbrydoledig sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer astudio pellach mewn Addysg Uwch neu unrhyw lwybr arall y gallent ei ddewis. Y mae'r fanyleb hynod o ymarferol hon yn rhoi amrywiaeth o sgiliau bywyd hanfodol i ddysgwyr a fydd yn eu helpu i lwyddo mewn unrhyw yrfa o'u dewis. Byddant yn cael cyfle i weithio naill ai fel perfformwyr a/neu ddylunwyr ar dri pherfformiad gwahanol.
Pam astudio Drama?
Mae'r fanyleb yn cynnig cwrs astudio ymarferol a heriol sy'n annog dysgwyr i ddatblygu a chymhwyso fframwaith hyddysg, dadansoddol ar gyfer gwneud, perfformio, dehongli a deall drama a theatr.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau.
|
Testunau Gosod Newydd Gweler adnoddau ar gyfer y testunau gosod newydd i’w asesu o 2026 yma > |
|
|
Darganfyddwch Adnoddau Digidol YN RHAD AC AM DDIM!
|
|
![]() |
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.
Awst
Hyd
Hyd
