UG/Safon Uwch Daearyddiaeth

new_releases
Ffurflenni Datganiad y Ganolfan ar gyfer cymwysterau cyffredinol CBAC

Cadwch lygad am gylchlythyr mis Medi, a fydd yn esbonio sut rydym wedi diweddaru ein trefniadau o ran casglu ffurflenni datganiad y ganolfan. Bydd un cyswllt digidol yn awr yn cael ei ddefnyddio i gasglu'r holl ddatganiadau yn hytrach na'r dogfennau unigol y byddwch wedi arfer â nhw.  

 

Mae terfyn amser newydd ar gyfer cyflwyno hefyd, sef 24 Mawrth. Mae hyn yn berthnasol i bob cymhwyster sydd â gofyniad am ddatganiad y ganolfan.  

new_releases
Y Diweddaraf o ran Adolygu Manyleb Safon Uwch Daearyddiaeth

Ar ôl ymgynghori â chanolfannau, rydym wedi penderfynu oedi’r broses ddiwygio yn ystod y cyfnod hwn er mwyn caniatáu trafodaethau pellach, gan gynnwys trafodaethau â Cymwysterau Cymru. Felly, ni fyddwn yn cyflwyno’r newidiadau arfaethedig i’r cymhwyster ym mis Medi 2027. Rydym yn hyderus na fydd dilyniant  dysgwyr i’r cymhwyster UG/Safon Uwch o’r cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn cael ei effeithio. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth maes o law. 

new_releases
Cyflwyno Samplau Asesiad Di-arholiad 2027

Rhaid i'r holl samplau ADA TAG Daearyddiaeth gael eu huwchlwytho i IAMIS erbyn 20 Mawrth 2027. Sylwch na chaiff cyflwyniadau post eu derbyn. Gellir dod o hyd i gyfarwyddyd llawn ar sut i uwchlwytho samplau i IAMIS yma. Bydd y Porth IAMIS ar gael ar gyfer cyflwyno marciau o 10 Mawrth 2027. 

new_releases
Gwasanaeth Cynghori ar deitlau ADA

Chwiliwch dan ‘Dogfennau Allweddol’ > ‘Canllawiau Ymchwiliad Annibynnol’ am ein ffurflen newydd os byddwch am gael cyngor pellach ar deitlau ADA eich disgyblion. Mae’r ffurflen at ddefnydd athrawon yn unig a dylech ei danfon ynghyd â’r ffurflenni cynnig sy’n peri pryder at y cyfeiriad ebost ar y ffurflen.

new_releases
Cyfleoedd Gwaith Maes yng Ngwersyll yr Urdd, Pentre Ifan

Hoffem eich hysbysu am gyfleoedd cyffrous i gynnal eich astudiaethau gwaith maes Blwyddyn 12, yn y Gymraeg neu'r Saesneg, yng nghanolfan Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan yn Sir Benfro. Gweler y daflen wybodaeth yn yr adran Canllawiau Gwaith Maes am fwy o fanylion am yr hyn sydd ar gael a sut i gofrestru!

new_releases
Cylchlythyr newydd i ddod yn fuan!

Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.

Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.

Tanysgrifiwch yma

Dysgu: Medi 2016
Codau Cyfeirio Codau info

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

 

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

photo of Joanne Laity
Oes gennych chi gwestiwn?
Joanne Laity
phone_outline 02922 404 281
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Rob Williams
phone_outline 02922 404 281
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Charmaine Cook
Dyddiadau Allweddol
2026
13
Awst
Diwrnod Canlyniadau
30
Medi
Adroddiadau’r Uwch Arholwr ar gael
2027
10
Maw
System IAMIS ar agor i gyflwyno marciau’r Asesiad Di-arholiad