UG/Safon Uwch Daeareg
Mae CBAC Eduqas wedi ymrwymo i gyflwyno cymwysterau UG a Safon Uwch Daeareg. Rydym yn croesawu ymholiadau gan athrawon sy'n dilyn manylebau OCR ar hyn o bryd a fydd yn edrych i ddechrau addysgu Eduqas Daeareg o fis Medi 2026 neu 2027 ymlaen. Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi wneud y newid i Eduqas. Anfonwch neges e-bost at geology@eduqas.co.uk os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Bydd y tri phapur arholiad Safon Uwch Daeareg o haf 2026 yn cynnwys, ar dudalen 2, fformiwlâu mathemategol ar gyfer arwynebedd, cylchedd, cyfaint a thrigonometreg. Ceir manylion yng Nghylchlythyr 077 a anfonwyd at ganolfannau ym mis Rhagfyr 2025, ac yng nghylchlythyr UG/Safon Uwch Daeareg Ionawr 2026 (gweler hyn yn Dogfennau Allweddol > Cylchlythyrau / Cyfathrebu).
Mae ein manyleb UG/Safon Uwch Daeareg yn ymdrin yn gynhwysfawr â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer astudio'r Ddaear, ei strwythurau, esblygiad a dynameg.
Mae'r fanyleb yn rhoi datrys problemau wrth wraidd y dysgu. Anogir dysgwyr i ymateb i wybodaeth ddaearegol mewn sefyllfaoedd cyfarwydd a newydd yn y labordy ac yn y maes
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.