TGAU Cyfrifiadureg
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Bydd y TGAU newydd mewn Cyfrifiadureg ar gael i'w addysgu o fis Medi 2025. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen y cymhwyster yma.
Gellir rhoi marciau’r Asesiad Di-arholiad ar gyfer cyfres yr haf ar Porth o 10 Mawrth ymlaen. Y dyddiad olaf i gyflwyno'r gwaith yw 5 Mai. O dan 'Pob gwasanaeth / Arholiadau ac Asesu / Marciau a Chanlyniadau Asesiadau Mewnol’ ar y porth diogel mae'r marciau yn cael eu rhoi a'r gwaith yn cael ei uwchlwytho.
Nid oes uned Asesiad di-Arholiad ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg yn 2022.
Lluniwyd y fanyleb TGAU Cyfrifiadureg mewn ffordd sy'n galluogi canolfannau i ganolbwyntio ar gyflwyno'r cwrs mewn ffordd arloesol drwy gyfrwng strwythur syml, anghymhleth sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, gyda gofynion technolegol realistig.
Mae'r fanyleb yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o gysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg ac amrywiaeth eang o gyfleoedd astudio. Mae'r fanyleb hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr lunio ymatebion ysgrifenedig estynedig a dangos ansawdd eu cyfathrebu ysgrifenedig, gan gynnwys defnydd priodol o atalnodi a gramadeg.
Mae'r adnodd yma yn galluogi chi i greu papur cwestiynau o ddewis o filoedd o gwestiynau o gyn bapurau.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
![]() |
![]() |
![]() |
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.


Mai