Cyfres Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae'r amseriadau ar gyfer profion cadarnhau ar gyfer yr EAoNS L2 a L3 yn cael eu hymestyn. Yr amseriadau newydd fydd:
Lefel 2 EAoNS – wedi'i ymestyn 15 munud (1 awr i gyd)
Lefel 3 EAoNS – wedi'i ymestyn 25 munud (1 awr, 25 munud i gyd)
Bydd yr estyniadau amseru hyn yn mynd yn fyw ar 4 Mawrth 2024. Bydd unrhyw godau allweddol nad yw ymgeiswyr wedi'u defnyddio erbyn 1 Mawrth yn cael eu gwagio. Gall canolfannau drefnu ailsefyll o 4 Mawrth ymlaen.
Diweddariad i’r Egwyddorion Dylunio ar gyfer cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol - Mehefin 2022
Mae'r gyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) a gyflwynwyd ym mis Medi 2015 wedi'i llunio i asesu'r amrywiaeth o sgiliau y mae dysgwyr eu hangen er mwyn llwyddo ym maes addysg, cyflogaeth a bywyd. Maent yn darparu un llwybr cynnydd, sy'n rhychwantu chwe lefel ac sy'n cynnwys cymwysterau mewn:
- Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (SCRhH)(Mynediad 1 – Lefel 3)
- Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol (SCH)(Mynediad 1 – Lefel 3)
- Sgiliau Llythrennedd Ddigidol Hanfodol (SLlDH)(Mynediad 1 – Lefel 3)
- Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol (SCH)
Trosolwg o gyfres newydd Sgiliau Hafodol Cymru CBAC, gan Sara Davies.
Y bwriad gyda'n cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw eu defnyddio mewn amrywiaeth o amgylcheddau ôl-16 ac ôl-14 mewn rhai achosion. Maent yn canolbwyntio ar gymhwyso'r sgiliau hyn yn ymarferol, yn enwedig gallu dysgwyr i drosglwyddo'u gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol gyd-destunau a phwrpasau.
Nod cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos hyfedredd yn y sgiliau hanfodol. Dyma'r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysgwyr yn y cam nesaf yn eu gwerthfawrogi ac y mae'r dysgwyr eu hangen er mwyn gwneud cynnydd a perfformio'n effeithiol ym maes addysg, bywyd a gwaith.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.