Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol (SCH)
Dysgu: Medi 2015
Codau Cyfeirio
Mae angen i ni baratoi ar gyfer byd gwaith trwy ddatblygu sgiliau y mae CYFLOGWYR yn dweud sy'n bwysig.
Gellir defnyddio sgiliau trosglwyddadwy mewn unrhyw swydd, mewn unrhyw sector cyflogaeth. Mae datblygu'r sgiliau hyn yn ein gwneud ni'n few cyflogadwy.
Rydym eisoes yn gwybod pwysigrwydd sgiliau cefarthrebu, llythrennedd digidol a rhifedd. Ond mae cyflogwyr yn chwilio am rywbeth mwy.
Mae'r cymhwyster Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol yn cynnwys pedwar sgil sy'n cael eu hystyried yn bwysig ar gyfer cyflogadwyedd:
- Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau - nodi problemau a phenderfynu ar y ffyrdd gorau i'w datrys
- Cynllunio a Threfnu - cyflawni tasg, penderfynu pa adnoddau sy'n ofynnol gan bwy a phryd
- Creadigol ac Arloesi - meddwl am syniadau a chreu ffyrdd i'w datblygu
- Effeithiolrwydd Personol - y sgiliau sydd eu hangen i weithio ar eich pen wich hun ac mewn tîm.
Ydych chi wedi gweld...
Ffiniau Graddau
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Oes gennych chi gwestiwn?
Rheolwr Cymwysterau Sgiliau a Pharthau (BSC Uwch a SHC)
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.