UG/Safon Uwch Celf a Dylunio
Bydd papur yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol sy’n cynnwys cyswllt i’r clip ffilm yn cael ei ryddhau ar Porth ar 1 Chwefror. Sylwch, dim ond y Swyddog Arholiadau a Defnyddwyr cyfrifon eilaidd â’r mynediad priodol fydd yn gallu lawrlwytho’r Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol. Mae modd trefnu mynediad i ddefnyddwyr eilaidd drwy eich Swyddog Arholiadau. Mae deunyddiau i’w cael dan Arholiadau ac Asesiadau>Tasgau Asesiadau Di-arholiad. Hidlyddion: Pwnc>Celf a Dylunio; Brand>CBAC; Lefel>TAG; Math o ddogfen>Tasgau Asesiadau Di-arholiad; Blwyddyn>2026
Mae ein manyleb UG a Safon Uwch mewn Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu creadigol diddorol ac arloesol, lle mae arfer celf, crefft a dylunio yn cael ei gyfuno'n ystyrlon â gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol.
Mae'r fanyleb yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddatblygu sylfaen eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol yn yr UG, gan gynnig dealltwriaeth gyfannol iddyn nhw o amrywiaeth o ymarferion a chyd-destunau yn y meysydd celf, crefft a dylunio gweledol, gan arbenigo mwy a chyflawni'n well yn y Safon Uwch.
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddiant
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Chw
Mai
Meh

