TGAU Celf a Dylunio
Bydd angen mynediad i IAMIS ar y personél yn y ganolfan sy’n gyfrifol am gyflwyno marciau asesiadau dan reolaeth a gwaith sampl. Bellach mae angen mewngofnodi i’r Porth newydd i wneud hyn.
Bydd Swyddogion Arholiadau a deiliaid cyfrifon Gweinyddu yn eich canolfan yn gallu gwneud hyn i chi, neu gallan nhw greu cyfrifon ‘Defnyddiwr’ gyda mynediad i IAMIS ar gyfer unigolion a enwebir yn eich canolfan e.e. athrawon neu arweinwyr adrannau.
Os bydd angen mynediad arnoch chi, cofiwch adael digon o amser i osod eich cyfrif/trefnu’r mynediad. Mae’n bwysig i chi hefyd wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno marciau a samplau yn unol â therfynau amser cyhoeddedig CBAC/Eduqas.
Mae ein manyleb TGAU Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu i'r myfyrwyr sy'n ddiddorol, heriol, cydlynol ac ystyrlon gydag elfen o hyblygrwydd sy'n cefnogi datblygu arfer creadigol mewn ffordd ddilyniannol a chynyddol.
Drwy gyfrwng rhaglen astudio sy'n gwobrwyo ac yn ddeniadol, mae'r fanyleb hon yn ehangu profiad, yn datblygu'r dychymyg a sgiliau technegol, gan feithrin creadigrwydd a hybu datblygiad personol a chymdeithasol.
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddiant
Gweld ein adnodd ar-lein ar gyfer athrawon a myfyrwyr celf.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Mai
Meh
Gor