TGAU Bwyd a Maeth
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau ym mis Ionawr 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2025 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer TGAU Bwyd a Maeth - Dysgu o 2025
Gellir rhoi marciau’r Asesiad Di-arholiad ar gyfer cyfres yr haf ar Porth o 10 Mawrth ymlaen. Y dyddiad olaf i gyflwyno'r gwaith yw 5 Mai. O dan 'Pob gwasanaeth / Arholiadau ac Asesu / Marciau a Chanlyniadau Asesiadau Mewnol’ ar y porth diogel mae'r marciau yn cael eu rhoi a'r gwaith yn cael ei uwchlwytho.
Bydd Adroddiadau’r Uwch Arholwyr ac Uwch Gymedrolwyr yn cael eu rhyddhau ar 30ain Medi 2025, ac eithrio’r TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd. Rhyddhawyd yr adroddiadau hyn ar 1af Medi 2025. Bydd yr holl adroddiadau ar gyfer cyfresi arholiadau Tachwedd ac Ionawr yn cael eu rhyddhau ar ddiwrnodau’r canlyniadau fel arfer.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma >
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â manyleb TGAU Bwyd a Maeth newydd sydd ar gael yng Nghymru yn unig (addysgu o 2016). Bydd y cymhwyster diwygiedig hwn, wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, yn disodli cymwysterau TGAU Bwyd cyfredol CBAC; TGAU Lletygarwch ac Arlwyo, TGAU Economeg y Cartref: Bwyd a Maeth a TGAU Dylunio a Thechnoleg: Technoleg Bwyd.
Mae'r adnodd yma yn galluogi chi i greu papur cwestiynau o ddewis o filoedd o gwestiynau o gyn bapurau.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Edrych ar ffiniau graddau cyfresi arholiadau’r gorffennol
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.


Mai
Awst