TGAU Bwyd a Maeth - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Bwyd a Maeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd corfforol a llesiant sy'n hybu cyrff iach a meddyliau iach. Mae hyn yn cynnwys ymddygiadau sy'n hybu iechyd fel dilyn deiet cytbwys
    • datblygu'r hyder, y cymhelliant, y gallu corfforol, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a fydd yn gallu eu helpu i ddilyn ffordd o fyw iach ac actif sy'n hybu iechyd corfforol da a

llesiant drwy astudio maeth ac iechyd da

  • galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau meddwl yn greadigol sydd eu hangen i allu ystyried sut maen nhw'n gwneud penderfyniadau yn nhermau goblygiadau posibl wrth baratoi bwyd, gan gynnwys risgiau, iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill
  • ymgysylltu'n feirniadol â'r dylanwadau cymdeithasol hyn yn eu diwylliant eu hunain sy'n dylanwadu ar y deiet a'r dewisiadau iechyd
  • Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
    • atgyfnerthu'r dysgu mewn amrywiaeth eang o gysyniadau yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig gan ystyried amrediad eang o destunau ac agweddau ar fwyd a maeth
    • datblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion yn ymwneud â maeth ac iechyd da: gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain
    • rhoi'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu am fwyd a maeth mewn cyd-destun ymarferol,

gan ddatblygu gwybodaeth am y cysyniadau

  • datblygu sgiliau ymarferol fel paratoi bwyd a choginio sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr o ran eu hiechyd a'u llesiant

 

Mae'r cymhwyster TGAU Bwyd a Maeth yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol

Llywodraeth Cymru ar gyfer Bwyd a Maeth.

  • Bydd y cymhwyster yn:
    • darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr ddod i ddeall y daith o'r 'fferm i'r fforc', gan archwilio dylanwadau economaidd, moesegol ac amgylcheddau argaeledd bwyd ac ystyried materion cynaliadwyedd, cynhyrchu a phrosesu bwyd
    • darparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud dewisiadau bwyd iach a gwybodus iddyn nhw eu hunain ac i eraill, gwneud cysylltiadau rhwng deiet, maeth, iechyd a llesiant, archwilio dylanwadau deiet a dewisiadau iechyd, esbonio swyddogaeth a manteision maethol bwyd a diodydd yn y corff dynol
    • darparu cyfleoedd i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o briodweddau swyddogaethol bwyd yn y corff ac o gynhwysion bwyd a ddefnyddir mewn rysáit
    • darparu sgiliau i ddysgwyr allu paratoi, prosesu, storio, coginio a gweini bwyd yn effeithiol ac yn ddiogel. Byddant yn gallu addasu ryseitiau presennol a datblygu eu seigiau eu hunain, dadansoddi a gwerthuso amrediad o fwydydd a seigiau maen nhw a phobl eraill wedi'u gwneud, ac archwilio'r rhinweddau synhwyraidd sy'n perthyn i'r cynhwysion mewn rysait

rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr werthfawrogi sut mae bwyd yn ein cysylltu â'r byd o'n cwmpas, archwilio cyfraniadau a bwydydd cymunedau ac unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, archwilio amrywiaeth o gynhwysion, a dulliau a thechnegau coginio, o fwydydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a dylanwadau diwylliannol-gymdeithasol ar argaeledd bwyd

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Allison Candy
Oes gennych chi gwestiwn?
Allison Candy ydw i
Subject Officer
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Allison Candy
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol