UG/Safon Uwch Almaeneg

new_releases
Deunyddiau Asesu Clyweledol o 24/25 ymlaen

Yn weithredol o gyfres arholiadau Haf 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu deunyddiau CD i ganolfannau ar gyfer asesiadau gyda chynnwys sain. Bydd y deunydd hwn ar gael i ganolfannau fel adnodd MP3 yn unig, y gellir ei lawrlwytho trwy ein safle Porth.

new_releases
Cylchlythyr newydd i ddod yn fuan!

Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.

Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.

Tanysgrifiwch yma

new_releases
Arholiadau Siarad

Mae'r cyfnod asesu ar gyfer cynnal Arholiadau Siarad TGAU a TAG yn rhedeg o ddydd Iau 1 Ebrill tan ddydd Gwener 14 Mai 2027. Caniateir i ganolfannau asesu am 5 wythnos o fewn y cyfnod hwn yn unig. Nid oes angen i'r cyfnod asesu hwn fod yn ddi-dor a chaniateir egwyl ar gyfer gwyliau'r Pasg ym mhob canolfan. Noder, ar gyfer yr Arholiadau Siarad Uned 1 ac Uned 3, gall yr athro sy'n arholi agor y pecyn o dri diwrnod gwaith cyn dyddiad asesu cyntaf y ganolfan. Rhaid i ddeunyddiau gael eu ei storio'n ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod.

Dysgu: Medi 2016
Codau Cyfeirio Codau info

Mae ein manyleb UG/Safon Uwch Almaeneg yn cynnig cyfle diddorol a chyffrous i ddysgwyr adeiladu ar eu hastudiaeth flaenorol o'r Almaeneg.  

Trwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol bydd dysgwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth ieithyddol a'u dealltwriaeth ddiwylliannol o'r gwledydd neu gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei siarad. 

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
 

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

 

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.

 

Ewch i wefan AAA

photo of Naomi Taylor
Oes gennych chi gwestiwn?
Naomi Taylor
phone_outline 029 2240 4297
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Liza-Maree Quintal
phone_outline 029 2240 4297
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Naomi Taylor
Dyddiadau Allweddol
2026
13
Awst
Diwrnod Canlyniadau