Sgiliau Hanfodol Cymru gyda CBAC

Bydd y gyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru CBAC yn cynnig sgiliau hanfodol y bydd eich dysgwyr eu hangen ar gyfer dysgu, bywyd a chyflogaeth lwyddiannus. 

Bwriedir i'n cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gael eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau ôl-16 ac ôl-14 mewn rhai achosion. 

Maent yn cynnig cynllun cynnydd, sy'n pontio chwe lefel o Fynediad 1 i Lefel 3, ac yn cynnwys cymwysterau ar draws pedair thema:

Pam dewis CBAC ar gyfer Sgiliau Hanfodol?


CBAC yw bwrdd arholi mwyaf sefydledig Cymru. Gyda dros 75 mlynedd o brofiad o ddarparu cymwysterau o safon i ddysgwyr yng Nghymru. 

Dewiswch CBAC ar gyfer Sgiliau Hanfodol a byddwch hefyd yn elwa o'r canlynol:

Pecyn Cefnogi Cynhwysfawr

Fel y gallwch addysgu'n hyderus, mae CBAC yn cynnig pecyn cefnogi cynhwysfawr ar gyfer canolfannau Sgiliau Hanfodol Cymru:

  • Adnoddau digidol o safon yn rhad ac am ddim, gan gynnwys modiwlau dysgu cyfunol rhyngweithiol
  • Mynediad rhwydd at gefnogaeth gan arbenigwyr pwnc
  • Mynediad at gyfleoedd DPP rhad ac am ddim  dan arweiniad arbenigwyr

Dim ffioedd cymeradwyo canolfannau

Mae ffioedd yn daladwy wrth ymrestru dysgwyr, ac nid oes isafswm o ran maint carfan.


Cyfnod ymrestru a dyfarnu hyblyg


Mae'n bosibl ymrestru dysgwyr i'w hardystio ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau er mwyn cefnogi eu cynnydd.



Dechreuwch Sgiliau Hanfodol Cymru gyda CBAC


I ddechrau addysgu Sgiliau Hanfodol Cymru gyda CBAC cysylltwch â ni yn essentialskills@wjec.co.uk. Yna bydd ein tîm yn cysylltu i gynnig yr holl gyngor ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i ddechrau.

 Lawrlwythwch y Llawlyfr Sgiliau Hanfodol Cymru

 Lawrlwythwch y Pecyn Cychwynol Sgiliau Hanfodol Cymru