Diogelu Data

Daeth y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol neu'r GDPR i rym ar 25 Mai 2018 ac fe’i disodlwyd yn y DU gan y 'UK-GDPR' o 31 Ionawr 2020.

 

Rydym wir yn cymryd ein cyfrifoldebau preifatrwydd a diogelu data o ddifrif; bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiweddariadau i'n Polisi Preifatrwydd, sy'n esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Bydd unrhyw newidiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ysgolion a cholegau, arholwyr a chymedrolwyr neu gyflenwyr, yn cael eu cyfleu fel sy'n briodol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rheoliadau ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os oes angen adroddiad cais gwrthrych am wybodaeth GDPR arnoch chi, llenwch Ffurflen Mynediad at Ddata Personol. Dylech gyfeirio at y Cwestiynau Cyffredin hyn wrth wneud hynny.

Noder nad yw'n ddogfen swyddogol, ac nid yw fel arfer yn cael ei derbyn gan gyflogwyr, colegau na phrifysgolion fel tystiolaeth o ganlyniadau eich cymhwyster.

Croesewir unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynghylch polisi diogelu data CBAC, a gellir eu cyfeirio at:  swyddog.diogelu.data@cbac.co.uk