Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol

Lluniwyd ein Cymwysterau Sylfaen Cenedlaethol i ysbrydoli a chefnogi dysgwyr yng Nghymru, a chynnig rhaglen dros ddwy flynedd sy'n hygyrch ac sy'n ennyn diddordeb.

       

Gyda’r cymwysterau hyn, bydd dysgwyr yn magu hyder, yn datblygu gwybodaeth hanfodol, yn dod i ddeall sgiliau, ac yn mwynhau llwyddiant ystyrlon.

    

Ein Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol

Canllaw Cyflym Cymraeg Lefel Mynediad Cymraeg*
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Cymraeg Craidd Lefel Mynediad Cymraeg Craidd*
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Dylunio a Thechnoleg Lefel Mynediad / Lefel 1 Dylunio a Thechnoleg*
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Mathemateg Lefel Mynediad / Lefel 1 Mathemateg a Rhifedd
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Saesneg Lefel Mynediad / Lefel 1 Saesneg*
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Technoleg Ddigidol Lefel Mynediad / Lefel 1 Technoleg Ddigidol
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Celfyddydau Mynegiannol Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Celfyddydau Mynegiannol
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Dyniaethau Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Dyniaethau
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Gwyddorau Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Gwyddorau
Gweld Canllaw Cyflyn

Mae * yn dynodi bod y fanyleb wedi’i chymeradwyo gan Cymwysterau Cymru i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.

       

Pam dewis CBAC ar gyfer cymwysterau Cenedlaethol 14-16?

  • Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau yn benodol i Gymru. Rydyn ni'n gweithio gyda dros 300 o ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu asesiadau cywir, teg a hygyrch i bron 100,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
  • Rydyn ni wedi cydweithio ag athrawon a rhanddeiliaid o'r byd addysg i gyd-greu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1 a Thon 2, a byddwn yn cymryd popeth rydyn ni wedi'i ddysgu o'r broses hon i sicrhau bod y cymwysterau Ton 3 hyn yn berffaith addas i athrawon a dysgwyr fel ei gilydd.
  • Mae pob cymhwyster yn cael ei greu'n ddwyieithog o'r gwaelod i fyny, yn benodol i ddysgwyr yng Nghymru.
  • Byddwn yn darparu'r pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan CBAC, gan gynnwys adnoddau digidol o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu proffesiynol dan arweiniad arbenigwyr.


"Mae ein Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol wedi'u llunio i ennyn hyder ac i ddathlu cynnydd. Drwy asesu hyblyg a chynhwysol a dysgu ystyrlon, maent yn grymuso pob dysgwr i lwyddo ac i ddatblygu sylfaen gref ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith yn y dyfodol.
"


Delyth Jones | Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau 

Sophie Dobbs WJEC

Angen gwybodaeth neu arweiniad pellach?


Mae ein tîm cefnogi wrth law bob amser i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd, cysylltwch â ni heddiw.


Sophie Dobbs | ton3@cbac.co.uk