• - Diwygio Lefel 3 Twristiaeth

Diwygio Lefel 3 Twristiaeth

Byddwn yn diwygio ein cymhwyster Lefel 3 Twristiaeth i sicrhau ei fod yn bodloni Meini Prawf Cymeradwyo Teithio a Thwristiaeth Cymwysterau Cymru.

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Diploma Cymhwysol mewn Twristiaeth wedi cael ei ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr 16-19 ac mae'n cynnig profiad sy'n canolbwyntio ar ddysgu cymhwysol, h.y., caffael a chymhwyso gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth drwy dasgau pwrpasol wedi'u gosod yng nghyd-destun y sector neu'r pwnc. Mae ganddynt felly lawer o nodweddion gwaith real. Lluniwyd y cymhwyster Lefel 3 Twristiaeth Cymhwysol hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ddysgu am y sector a'i botensial o ran gyrfa neu astudio pellach. Mae ar ei fwyaf addas yn sylfaen i astudio neu hyfforddiant pellach. Byddai hyn yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin amrywiaeth o sgiliau arbenigol a chyffredinol a fyddai'n eu helpu i gael gwaith.
 

Ymunwch â'n Grŵp Cynghori   

 
Ydych chi am weithio'n agos â CBAC i ddiwygio'r cymhwyster Lefel 3 Twristiaeth? 

Rydyn ni'n sefydlu Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymhwyster ar gyfer Lefel 3 Twristiaeth, ac rydym yn chwilio am aelodau i'n cynghori, ein llywio a'n herio wrth i ni symud trwy'r broses datblygu cymwysterau. 

Beth mae'r rôl yn ei chynnwys? 

Mae aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu yn ganolog i ddatblygiad ein cymwysterau. Yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi wneud y canlynol: 

  • rhannu eich syniadau i lywio ein gwaith datblygu cychwynnol. 

  • ystyried y weledigaeth sydd gennym drwy ymddwyn fel ffrind beirniadol, ond cefnogol. 

  • sicrhau y bydd y cymhwyster yn bodloni gofynion y rheoleiddwyr a disgwyliadau rhanddeiliaid  

  • cynghori ar agweddau penodol ar gynnwys a dulliau asesu.  

  • nodi cyfleoedd a heriau posibl i gyflawni'r cymhwyster. 

 
Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ddiddorol, yn ategu'r cwricwlwm, ac yn addas i'r dyfodol. 

Nodwch eich diddordeb mewn ymuno â'n Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau, anfonwch e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk neu elizabeth.britton@wjec.co.uk 


Dyddiad cau Dydd Gwener 9 Ionawr 2026