Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Arloeswyr: Adfyfyrdodau o Wobrau ac Arddangosfa Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) 2026

Mae Gwobrau ac Arddangosfa flynyddol EESW yn ddathliad bywiog o greadigrwydd a meddwl technolegol ledled Cymru, gan ddod â dysgwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynghyd i gydnabod cyflawniadau rhagorol dylunwyr a thechnolegwyr ifanc. Yn ei hanfod mae'n gystadleuaeth i ddysgwyr sy'n arwain at ddau ddigwyddiad arddangos: yn 2026, cynhaliwyd digwyddiad Gogledd Cymru yng Nghanolfan Fusnes Conwy, tra cynhaliwyd digwyddiad De Cymru yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe. 

Dathlu arloesedd a chreadigrwydd yng Nghymru 

Yn y gystadleuaeth, treuliodd dysgwyr sawl mis yn datblygu atebion arloesol i heriau go iawn, a osodwyd gan gwmnïau lleol. Rhoddodd hyn fewnwelediad gwerthfawr iddynt i ddisgwyliadau'r diwydiant tra'n eu helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy allweddol fel datrys problemau, gwaith tîm, a chyfathrebu – sy'n rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Gyda mwy na 50 o ysgolion yn cymryd rhan ar draws y ddau ranbarth, tynnodd y gystadleuaeth sylw at y cryfder, yr amrywiaeth a'r brwdfrydedd cynyddol dros Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. 

Yna arddangoswyd y projectau a gwblhawyd yn y ddau ddigwyddiad a chawsant eu hasesu gan weithwyr proffesiynol STEM gwirfoddol, a oedd wedi adolygu'r adroddiadau ysgrifenedig ymlaen llaw. 

Ochr yn ochr â'r gystadleuaeth, cafodd dysgwyr gyfle hefyd i archwilio amrywiaeth o stondinau arddangos yn y digwyddiadau, gan gynnwys rhai gan Institute of Lighting Professionals a sefydliadau fel Hogan a Bute Energy, gan gynnig mewnwelediad pellach i gyrsiau STEM a llwybrau gyrfa. Roedd Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru, a'r Drindod Dewi Sant hefyd yn bresennol, gan gynnig gwybodaeth am opsiynau astudio STEM. 

Noddi'r Adroddiad Gorau 

Fel rhan o'r gystadleuaeth eleni, roeddem yn falch o noddi'r categori Adroddiad Gorau, gan roi £500 ym mhob rhanbarth i gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu – sy'n sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant mewn addysg a diwydiant. 

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, gyda chydnabyddiaeth arbennig yn mynd i enillwyr y categori Adroddiad Gorau – Ysgol Friars ym Mangor, am eu project rhagorol ar leihau ffioedd draenio dŵr wyneb, ac Ysgol Gatholig Bishop Vaughan yn Abertawe am eu project dylunio postyn lamp arloesol. 

Wrth adfyfyrio ar safon eithriadol o uchel y ceisiadau, dywedodd Susan Miles, Swyddog Pwnc Electroneg: 

“Gweithiodd y grwpiau ar amrywiaeth o brojectau rhagorol gan gynhyrchu adroddiadau proffesiynol iawn. Roedd y safon gyffredinol yn eithriadol o uchel, ac rwy'n hyderus bod y dysgwyr wedi cael profiad gwerthfawr o gymryd rhan.” 

Dyfodol STEM yng Nghymru 

Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd meithrin talent ifanc, cryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant, a chadw creadigrwydd ymarferol wrth wraidd cymwysterau. Maent hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Cymru i arloesedd, cynaliadwyedd a rhagoriaeth dechnegol drwy addysg.  

Mae CBAC yn cefnogi hyn drwy amrywiaeth eang o gymwysterau STEM, gan gynnwys Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg, amrywiaeth o gyrsiau Mathemateg, a chyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwyddoniaeth. 

Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r arloeswyr talentog hyn yn parhau i siapio dyfodol technoleg a chreadigrwydd yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at yr hyn y bydd digwyddiad 2027 yn ei gynnig.