Yn Arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd: Dwy Don ar waith
Gobeithio bod y flwyddyn academaidd newydd yn mynd yn dda i chi a bod eich athrawon, darlithwyr a dysgwyr yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Gan fod ein cymwysterau Ton 1 yn yr ail flwyddyn o gael eu cyflwyno, a bod cymwysterau Ton 2 wedi dechrau cael eu haddysgu, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael y gefnogaeth gywir wrth gyflwyno cymwysterau newydd. Rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd a hoffem eich atgoffa o'r amrywiaeth gynhwysfawr o adnoddau sydd ar gael.
O'n Hadnoddau Digidol rhad ac am ddim, y mae modd eu haddasu, sydd wedi'u cynllunio i wella addysgu a dysgu, i'n rhaglen Dysgu Proffesiynol a thimau pwnc pwrpasol, mae amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i gyflwyno'r cymwysterau hyn yn hyderus. P'un a ydych yn chwilio am adnoddau ymarferol i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, arweiniad arbenigol neu gyngor parhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd, rydym yma i helpu.
Cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Ton 1
Ym mis Gorffennaf, ysgrifennom at ganolfannau am ein cynlluniau i ddatblygu deunyddiau enghreifftiol ychwanegol ar gyfer unedau asesu di-arholiad ar gyfer ein cymwysterau Ton 1 sy'n cael eu hasesu am y tro cyntaf yn 2027, gan dynnu ar waith ymgeiswyr. Os wnaeth eich canolfan gadarnhau bod diddordeb mewn cyfrannu, dyma nodyn i'ch atgoffa mai'r dyddiad cau cyflwyno yw 23 Hydref. Bydd deunyddiau a ddewisir yn cael eu datblygu a'u rhannu â chanolfannau erbyn 15 Chwefror 2027, cyn y cyfnod marcio a chyflwyno.
Mae rhoi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru ar waith wedi bod yn gyflawniad ar y cyd. Rydym yn ddiolchgar am yr adborth y mae canolfannau wedi'u rhoi i ni ar hyd y ffordd. Mae ein timau wedi gwrando ac wedi gwneud newidiadau. Credwn y bydd y rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eich profiad o gyflwyno'r cymwysterau. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Cyfres gadarn o gymwysterau galwedigaethol
Mae Ton 3 yn dod ag ystod amrywiol o gymwysterau i'r portffolio Gwneud-i-Gymru, o Dystysgrifau Galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant ar gyfer Addysg Uwchradd i Gyfres Sgiliau a Phroject Personol sy'n adeiladu ar lwyddiant ein Tystysgrif Her Sgiliau, ochr yn ochr â chymwysterau Sylfaen. Wedi'u datblygu drwy'r un dull cyd-awduro a oedd yn sail i Don 1 a Thon 2, ac wedi'u llywio gan y cydweithio ehangach â phartneriaid yn y diwydiant, mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i gynnig gwerth yn y farchnad a chysylltiadau cryfach â'r byd gwaith. Gyda'i gilydd, maent yn ategu ein cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru presennol a chymwysterau cysylltiedig, gan ddarparu amrywiaeth ehangach o lwybrau i ddysgwyr lwyddo.
Mae'n bleser gennym gadarnhau bod ein manylebau wedi'u cymeradwyo ar gyfer pob un o’r cymwysterau hyn bellach ar gael, ynghyd â'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol gan roi'r cyfle i chi gynllunio'n hyderus ac i baratoi ar gyfer yr addysgu am y tro cyntaf ym Medi 2027. Bydd y Canllawiau Addysgu yn dilyn ym mis Ionawr.
Bydd Adnoddau Digidol rhad am ddim, y mae modd eu haddasu, yn cael eu cyhoeddi fesul cam o ddiwedd hydref 2026, gyda'r gyfres ddwyieithog lawn yn barod erbyn haf 2027. I ategu'r adnoddau hyn, bydd ein darpariaeth Dysgu Proffesiynol Ton 3 pwrpasol yn cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim, dwyieithog ac ar alw i athrawon a darlithwyr. Gallant eu cyrchu ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw.
Mae Sophie Dobbs, ein Cynrychiolydd Rhanbarthol, yn parhau i fod wrth law i'ch cefnogi chi wrth i chi baratoi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech arweiniad pellach, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at ton3@cbac.co.uk.
Ymgysylltu â'r gymuned addysgol
Mae'r tymor hwn wedi cynnig llawer o gyfleoedd gwerthfawr i gysylltu'n uniongyrchol â chydweithwyr ar draws y sector addysg, gan ein galluogi i glywed yn uniongyrchol am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu ysgolion a cholegau.
Yn ein pedwerydd gweminar Gweud-i-Gymru, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i uwch arweinwyr ar draws Cymru am ein cymwysterau newydd a'r gefnogaeth sydd ar gael i'w helpu i baratoi i'w cyflwyno. Mae'r niferoedd sy'n mynychu'r gweminarau hyn yn parhau i gynyddu, ac rydym yn gwerthfawrogi'r ymgysylltiad cryf a'r cyfraniadau gan y rhai sy'n ymuno â ni. Mae'r gweminarau hyn wedi dod yn sianel bwysig i randdeiliaid rannu adborth yn uniongyrchol, gan helpu i lywio a siapio ein gwaith parhaus.
Tu hwnt i'n digwyddiadau ar-lein, rydym yn parhau i atgyfnerthu ein partneriaethau â'r sector hefyd drwy noddi'r Sioe Addysg Genedlaethol a Chynhadledd Flynyddol Colegau Cymru. Mae'r cyfleoedd hyn wedi ein galluogi i rannu ein gweledigaeth ar gyfer ein cymwysterau newydd a thynnu sylw at y gefnogaeth helaeth sydd ar gael i ysgolion a cholegau.
Yn olaf, roedd ein harddangosfeydd Gwobrau Arloesedd blynyddol yng Nghaerdydd a Bangor, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn gyfle gwerthfawr i weld creadigrwydd, arloesedd a thalent dysgwyr Cymraeg yn uniongyrchol. Roedd safon y gwaith a arddangoswyd yn eithriadol ac yn bwerus o ran ein hatgoffa o'r talentau sy'n dod i'r amlwg drwy ein hysgolion a'n colegau, ac edrychaf ymlaen at ddathlu enillydd eleni yn y seremoni wobrwyo ym mis Rhagfyr.
Cwrdd â'n hysgolion a cholegau
Mae croeso bob amser i aelodau ein cymuned addysg gynnal deialog gyda ni. Mae'r ymrwymiad yn parhau, ac yn rhan o hynny rwyf wedi trefnu ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr am y profiadau maen nhw'n eu cael gyda'n cymwysterau ni. Y tymor hwn, rwyf wedi ymweld ag Ysgol Friars yng Ngwynedd ac Ysgol 3-19 Y Brenin Harri VIII yn y Fenni. Os hoffech chi drefnu ymweliad, yna gallwch gysylltu â mi drwy anfon neges at lorna.turner@cbac.co.uk.
Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, ymroddiad, a phroffesiynoldeb parhaus. Gyda'n gilydd, rydym yn parhau i lunio dyfodol mwy disglair ar gyfer y byd addysg yng Nghymru.
Yn gywir,
Ian