Ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1 / 2 a Bagloriaeth Cymru 2026

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1 / 2 a chymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen. 

Canlyniadau TGAU Cymru 

  • Enillodd 19.6% o fyfyrwyr A* - A (9-7) 

  • Enillodd 62.3% o fyfyrwyr raddau A* - C (9-4) 

  • Enillodd 96.8% o fyfyrwyr A* - G (9-1) 

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen 

  • Enillwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen gan 98.2% o fyfyrwyr 

  • Llwyddodd 93.0% o ymgeiswyr yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen 


Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr TGAU a galwedigaethol sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae cyflawni fel hyn yn arwydd o'u gwaith caled, dyfalbarhad, a gwydnwch drwy gydol eu cyfnod yn astudio. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar eu camau nesaf, boed hynny'n addysg bellach, hyfforddiant, prentisiaethau, neu gyflogaeth. 

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn hefyd i'r athrawon, tiwtoriaid, swyddogion arholiadau a staff cefnogi ehangach mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad am eu proffesiynoldeb, ymrwymiad ac ymroddiad drwy gydol y gyfres arholiadau eleni. Yn olaf, hoffwn gydnabod yr holl gefnogaeth heb ei hail a gafwyd gan rieni a gofalwyr. Eu hanogaeth ac arweiniad nhw sydd wedi helpu'r dysgwyr i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon." 

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Er mwyn cefnogi ymgeiswyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau: 

Jonathan Thomas,  
Rheolwr CC a Brand 
jonathan.thomas@cbac.co.uk 
029 2026 5102