Ymgeiswyr yn casglu eu canlyniadau arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2020 heddiw

Ymgeiswyr yn casglu eu canlyniadau arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2020 heddiw

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Yn dilyn cyfnod arbennig o heriol rydym heddiw'n cydnabod cyflawniad miloedd o ddysgwyr ledled y wlad. Heddiw maen nhw'n casglu'r cymwysterau sy'n uchafbwynt ar eu blynyddoedd o astudio, a hefyd yn arwydd o'r gefnogaeth a'r arweiniad a gawsant gan eu hathrawon, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Dyma ddechrau ar eu taith i ddilyn nifer o lwybrau gwahanol, addysg bellach neu gyflogaeth efallai – a hoffwn ddymuno'r gorau i bob un ohonyn nhw, i ba bynnag gyfeiriad maen nhw'n mynd."

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Rydym wedi datblygu tudalen Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Yma, fe welwch yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi, gan gynnwys canllawiau i apeliadau a chysylltbwyntiau ar gyfer ein Timau Diwrnod y Canlyniadau.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas
Rheolwr CC a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 510