Rhaid i ddysgwyr gael eu canlyniadau arholiad o'r ysgol neu'r coleg (y ganolfan), ar y Diwrnod Canlyniadau swyddogol, nid yw'n bosibl iddyn nhw gael eu canlyniadau tan ar ôl 8am.
Cymwysterau |
Diwrnod Canlyniadau |
Safon Uwch, UG
Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol
Tystysgrif Her Sgiliau – Bagloriaeth Cymru Uwch
Project Estynedig
Diploma Sylfaen Celf a Dylunio
|
13 Awst 2020 |
TGAU
Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol
Lefel Mynediad
Iaith ar Waith
Llwybrau – Ieithoedd Tramor Modern
Tystysgrif Her Sgiliau – Bagloriaeth Cymru: Cyfnod Allweddol 4, Sylfaen a Chenedlaethol Ôl 16
|
20 Awst 2020 |
Dylai ysgolion a cholegau roi gwybod i bob dysgwr pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer derbyn canlyniadau. Dylai’r dysgwyr hefyd gael gwybod gyda pha aelodau o staff yr ysgol neu'r coleg y dylent drafod unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd ganddynt am unrhyw ganlyniadau.
Efallai nad yw’r trefniadau eleni'r un fath â rhai blynyddoedd blaenorol. Bydd angen iddynt ystyried cyngor diweddaraf y llywodraeth ar gyfer eich ardal.
Cofiwch na allwn ni ddarparu na thrafod canlyniadau â dysgwyr, eu rhieni, neu warcheidwaid hyd yn oed os yw'r ysgol neu'r coleg ar gau. Rhaid trafod unrhyw fater yn ymwneud â chanlyniadau â staff yn yr ysgol neu'r coleg.
Esboniad o'r canlyniadau
Dyfernir gradd gyffredinol am y cymhwsyter i ddysgwyr. Ni fydd marciau'n cael eu cyhoeddi gan na safwyd unrhyw arholiadau yn y gyfres hon ac na chafodd unrhyw waith ei farcio.
Ni fydd unrhyw ffiniau graddau'n cael eu cyhoeddi yn haf 2020, mae'r broses ar gyfer cyfrifo'r canlyniadau’n wahanol i'r broses mewn blynyddoedd eraill. Gallwch weld mwy o wybodaeth am y broses gyfrifo yma.
Ar gyfer cymwysterau unedol, ac eithrio'r Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol, ni fydd unrhyw raddau'n cael eu dyfarnu am unedau.
Defnyddir yr un setiau graddau â blynyddoedd eraill i ddyfarnu setiau graddau cyffredinol cymwysterau'r haf hwn. Byddant o'r un gwerth a dylid eu trin yn yr un ffordd gan brifysgolion, colegau a chyflogwyr.
Mae setiau graddau pob math o gymhwster i'w gweld yn Atodiad 1 ein dogfen Canllaw i Ganlyniadau ac Apeliadau.
Gweler ein DIWEDDARIAD CANLYNIADAU i gael y wybodaeth ddiweddaraf am raddau.
Er gwaethaf y ffaith bod arholiadau'r haf wedi'u canslo eleni, mae'n bwysig dyfarnu canlyniadau i ddysgwyr fel y gallant symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau. Felly, cytunodd y rheoleiddwyr a’r cyrff dyfarnu ar ddull ar gyfer cyfrifo graddau a'r dull hwn gafodd ei ddefnyddio eleni i wneud yn siŵr ein bod wedi gweithredu mewn ffordd gyson a theg.
Cam 1: Graddau asesu canolfannau a threfn restrol
Darparodd pob ysgol a choleg raddau asesu canolfannau i bob dysgwr ar gyfer pob pwnc ynghyd â threfn restrol o ddysgwyr ym mhob gradd ar gyfer pob pwnc.
Dyfarniad proffesiynol yw'r radd asesu canolfannau, sy'n seiliedig ar amrediad eang o dystiolaeth wrthrychol, o'r radd y byddai dysgwr yn fwyaf tebygol o fod wedi'i hennill pe byddai wedi sefyll yr arholiadau. Cafodd hyn ei seilio ar amrywiaeth o dystiolaeth fel gwaith dosbarth, gwaith cartref, ffug arholiadau ac asesu di-arholiad. Mae gradd asesu canolfannau yn wahanol i ragfynegi neu dargedu gradd, sy’n rhywbeth a ddefnyddir yn aml i gymell dysgwyr.
Gan fod angen sicrhau bod y graddau a'r drefn restrol mor fanwl gywir a theg ag y gallan nhw fod, llofnodwyd y graddau gan ddau aelod o staff cyn i bennaeth y ganolfan ddatgan bod y wybodaeth am raddau asesu canolfannau a threfn restrol y ganolfan yn fanwl gywir ac yn cynrychioli dyfarniadau proffesiynol staff y ganolfan. Doedd y graddau a'r trefnau rhestrol a gyflwynwyd i ni gan y canolfannau ddim yn unig gyfrifoldeb unrhyw un athro/athrawes unigol.
Cam 2: Safoni
Holwyd sawl cwestiwn ynglŷn â pham mae angen safoni a pham nad oes modd dyfarnu'r graddau asesu canolfannau fel y graddau wedi'u cyfrifo terfynol ar gyfer dysgwyr.
Mae'n bwysig safoni er mwyn sicrhau bod safonau'n cyfateb ar draws ysgolion a cholegau, a bod y canlyniadau'n genedlaethol yn cyfateb yn fras i ganlyniadau blynyddoedd blaenorol.
Bob blwyddyn, byddwn ni'n cynnal y safonau drwy osod asesiadau sy'n debyg o ran yr her maen nhw'n ei gynnig. Bydd safon y marcio'n cael ei monitro i wneud yn siŵr ei bod yn gywir ac yn gyson, a bydd ffiniau graddau'n cael eu penderfynu er mwyn gwneud yn siŵr bod modd cymharu safonau o flwyddyn i flwyddyn. Gan na chafodd y dysgwyr eleni'r cyfle i sefyll eu hasesiadau, rydym wedi mabwysiadu dull ystadegol a fydd yn sicrhau ein bod yn cynnal safonau graddio er mwyn:
- Trin pob dysgwr eleni yn deg
- Trin y dysgwyr eleni'n gyson â dysgwyr o'r gorffennol a'r dyfodol
- Sicrhau bod yr un gwerth yn perthyn i'r graddau a ddyfarnwyd eleni ag mewn unrhyw flwyddyn arall
Ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru (ac eraill a gofrestrwyd am fanylebau CBAC), rhaid i CBAC ddefnyddio'r gweithdrefnau safoni ystadegol a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru i gyfrifo graddau ar gyfer TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Yn y gweithdrefnau hyn nodir y setiau data y mae'n rhaid eu defnyddio i safoni.
Defnyddiwyd dulliau tebyg i'n modelau ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru neu Loegr ar gyfer ein cymwysterau eraill.
Pa ddata sydd wedi'u defnyddio?
Edrychwyd ar y data canlynol wrth safoni graddau:
- canlyniadau cenedlaethol blaenorol mewn pwnc
- cyflawniad blaenorol dysgwyr
- canlyniadau'r ysgol neu'r coleg yn y blynyddoedd diwethaf
Ystyriwyd dosraniadau graddau'r ysgol neu'r coleg ar draws cyfresi arholiadau haf blaenorol yn y pwnc yn seiliedig ar ganlyniadau yn y blynyddoedd diwethaf. Edrychwyd hefyd ar y gwahaniaethau mewn cyflawniad blaenorol rhwng dysgwyr ysgol neu goleg mewn cyfresi arholiadau blaenorol a'r dysgwyr sy'n cael eu canlyniadau yr haf hwn. O ran cymwysterau un cymwysterau unedol, ystyriwyd hefyd y canlyniadau asesu wedi’u ‘bancio’ lle y bo'n briodol gwneud hynny.
Cafodd y data hyn eu cymharu yn erbyn y graddau asesu canolfannau a gwybodaeth am drefn restrol a gyflwynwyd i ni ac addaswyd y rhain os yw graddau asesu canolfannau'n rhy hael neu'n rhy lym. Gall gradd derfynol dysgwr fod yn is, yn uwch neu'r un fath â'r radd asesu canolfannau a gyflwynwyd, ond ni fydd y drefn restrol a gyflwynwyd gan yr ysgol neu'r coleg yn newid.
Bydd y rheoleiddwyr hefyd yn adolygu'r canlyniadau cenedlaethol cyffredinol er mwyn sicrhau bod modd eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.
Canllawiau i athrawon ar ddeall canlyniadau eich myfyrwyr: Darllenwch ein dogfennau Canllawiau Adroddiadau Canlyniadau i gael gwybodaeth ychwanegol i'ch helpu i ddeall sut rydym wedi cyfrifo canlyniadau eich myfyrwyr, a'r data a ddefnyddiwyd gennym wrth gyfrifo.
Mae adroddiadau manwl ar gael i athrawon ar y Wefan Ddiogel.
I gael rhagor o wybodaeth, dylech ddarllen ein Canllaw i Ganlyniadau ac Apeliadau.
Cofiwch - os ydych chi'n ddysgwr neu;'n rhiant sydd am apelio yn erbyn gradd, bydd angen i chi gysylltu â'ch ysgol neu goleg i wneud hynny - ni allwch wneud hyn yn uniongyrchol drwy CBAC.
Gan fod y broses o ddyfarnu graddau wedi newid yr haf hwn, ni fydd y gwasanaethau ar ôl y canlyniadau safonol yn berthnasol. Yn hytrach, rydyn ni a'n rheoleiddwyr wedi cytuno ar broses apeliadau eithriadol. Mae dogfen y CGC 'Canllaw i brosesau apeliadau'r cyrff dyfarnu cyfres arholiadau Mehefin 2020' yn esbonio'r prosesau hyn.
Cyhoeddodd y CGC Wybodaeth Ychwanegol i’r canllaw CGC i broses apeliadau’r cyrff dyfarnu, cyfres arholiadau Mehefin 2020. Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â newidiadau diweddar i gydsyniad ymgeiswyr a rhagamcanu graddau. Dylech ddarllen y wybodaeth ychwanegol hon cyn cyflwyno apêl.
Gweithdrefnau apeliadau mewnol ysgolion a cholegau
Rhaid i ysgolion a cholegau fod â threfniadau ar waith a fydd yn caniatáu i ddysgwyr gyflwyno cais i'r ganolfan am wybodaeth berthnasol mewn perthynas â’u canlyniadau. Rhiad i'r weithdrefn apeliadau fewnol ganiatáu apelio yn erbyn penderfyniad gan ysgol neu goleg i beidio â chyflwyno apêl ar ran dysgwr. Rhaid hysbysu dysgwyr am drefniadau apeliadau mewnol yr ysgol/coleg.
Proses a therfynau amser apelio CBAC
Dau gam sydd i broses apeliadau haf 2020, y cam cyntaf sef yr 'adolygiad cychwynnol' a'r ail gam sef 'adolygiad annibynnol.
Adolygiad Cychwynnol
Gellir cyflwyno ceisiadau am adolygiad cychwynnol o ddyddiad y diwrnod cyhoeddi'r canlyniadau perthnasol. Dydd Iau 17 Medi 2020 yw'r dyddiad olaf i dderbyn ceisiadau am adolygiad cychwynnol. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn.
Anelwn at gwblhau'r adolygiadau cychwynnol o fewn 42 diwrnod calendr i dderbyn y cais. Os bydd lleoedd yn y brifysgol dan sylw, dylai canolfannau gyflwyno ceisiadau cyngynted â phosibl ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau. Dylai dysgwyr hysbysu eu canolfan cyn gynted â phosibl os ydyn nhw'n meddwl bod gwall wedi'i wneud wrth ddyfarnu eu gradd derfynol.
Rhaid i ysgolion a cholegau gyflwyno ceisiadau am adolygiad cychwynnol drwy ein Gwefan Ddiogel. Bydd arweiniad pellach ar sut i gyflwyno cais am adolygiad cychwynnol i'w weld ar ein Gwefan Ddiogel cyn cyhoeddi'r canlyniadau.
Dim ond ceisiadau a dderbynnir gan ysgolion neu golegau ar ran eu dysgwyr a dderbynnir. Rhaid i bennaeth y ganolfan awdurdodi'r cais.
Dylech ddarllen ein Canllaw i Ganlyniadau ac Apeliadau i weld manylion llawn y broses apeliadau a rhesymau dros apelio.
Ar gyfer apeliadau yn erbyn canlyniadau haf 2020, cynghorir staff canolfannau hefyd i ddarllen canllaw'r CGC i brosesau apeliadau'r cyrff dyfarnu cyfres arholiadau Mehefin 2020 cyn cyflwyno unrhyw apêl.
Ni chodir tâl am apeliadau a gyflwynir gan ganolfannau yng Nghymru.