Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2026?
Rydym yn falch iawn o fod yn noddi ac arddangos yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru eleni.
Pryd? 5 Tachwedd 2026
Ble? Stadiwm Dinas Caerdydd
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru yn dod â dros 200 o addysgwyr, arweinwyr diwydiant a rhanddeiliaid allweddol o Gymru a thu hwnt ynghyd. Mae'n cynnig cyfle i ymuno â thrafodaethau panel diddorol, cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, a chysylltu â chydweithwyr ar draws y sector.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar 'Gwneud yr achos dros newid: blaenoriaethau addysg bellach ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru’.
Gweithdai
Bydd y Gynhadledd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau grŵp, a bydd themâu yn cynnwys:
-
Deallusrwydd Artiffisial – Newid system
-
Dysgu oedolion – Beth sy'n gweithio?
-
Dysgu ac addysgu dwyieithog – Beth nesaf?
-
Diwygio cymwysterau
-
Dychwelyd i Erasmus+
-
Llwybrau Dysgu 16-19 – Cydweithio llwyddiannus
-
Cryfhau Llais y Dysgwr – Dysgu o'r Iseldiroedd
-
Prentisiaethau i Gymru – Y bennod nesaf
Dysgwch fwy ac archebwch eich tocynnau yma: https://www.colleges.wales/en/event/colegaucymru-annual-conference-2026
Dewch i ddweud helo
Dewch draw i'n stondin i gyfarfod ein tîm cyfeillgar! Byddwn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyfres o gymwysterau, yn cynnwys ein cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru newydd, megis y cymwysterau TAAU ac i arddangos ein hamrywiaeth heb ei hail o adnoddau digidol ategol RHAD AC AM DDIM
Wrth sôn am ein rhan yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru, dywedodd Sascha Hallett, Rheolwr Datblygu Busnes:
![]() |
"Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r gynhadledd eleni. Mae'n wych bob amser cwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'r sector addysg, cael sgyrsiau ystyrlon, a chlywed am y gwaith cyffrous sy'n digwydd ar draws Cymru. Rydym hefyd yn awyddus i arddangos ein cymwysterau newydd sbon, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gefnogaeth ac adnoddau digidol rhad ac am ddim sydd ar gael i ysgolion a cholegau. Edrychwn ymlaen at glywed eich cwestiynau a deall sut gallwn eich cefnogi.” |
