Siaradwr yn gynhadledd efo logo CBAC a bett ar ben.

Y Prif Weithredwr yn ymuno â phanel uchel ei barch o'r DU ac yn rhyngwladol i drafod dyfodol asesu digidol

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd ein Prif Weithredwr, Ian Morgan, yn ymuno â phanel uchel ei broffil o arbenigwyr o'r DU ac yn rhyngwladol yn Bett UK 2026, i ystyried yr hyn y mae parodrwydd digidol yn ei olygu i ddyfodol asesu. 

Gan gynrychioli'r unig gorff dyfarnu a wahoddwyd i gymryd rhan, bydd Ian yn rhoi cipolwg ar yr hyn sy'n deillio o bron ddau ddegawd o brofiad yn cyflwyno asesiadau ar-lein ar draws cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol ledled y DU.


Wrth sôn am y cyfle, dywedodd Ian Morgan: “Yr wyf wrth fy modd yn gallu cynrychioli'r sector cyrff dyfarnu yn y drafodaeth bwysig hon ac i rannu'r profiad sydd gennym o asesu ar-lein wrth i ni fynd ati i ysgogi newid ystyrlon. 

Mae asesiadau ar-lein wedi'u cyflwyno gennym ers bron 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi dod i ddeall sut gellir rhoi asesu digidol ar waith mewn modd diogel, teg ac ar raddfa. Ar sail y profiad hwn felly rydym mewn safle cryf i gefnogi ysgolion a cholegau fel y gallent fynd ati'n hyderus i fabwysiadu a chyflwyno'r math hwn o asesu.


Mae dysgwyr bellach yn dod yn fwy llythrennog yn ddigidol, a chredwn yn gryf fod modd i asesu gynnal tegwch, diogelwch ac uniondeb a harneisio'r sgiliau hyn ar yr un pryd. Deallwn yr heriau a wynebir gan yr ysgolion a'r colegau ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r sector wrth i ni gydweithio i ehangu'r dewis a'r cyfle sydd ar gael i ddysgwyr. 

Edrychaf ymlaen at rannu ein profiad â chyd-banelwyr uchel eu parch, rwy'n siwr y bydd hon yn drafodaeth fywiog a fydd yn hoelio sylw.” 

Yn ymuno ag Ian y mae Dominic Liechti, Uwch Gyfarwyddwr Marchnata Cynhyrchion Byd-eang Apple, a fydd yn cymedroli'r drafodaeth. Ymhlith aelodau eraill y panel y mae Pepe Di’Iasio, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL), a Syr Ian Bauckham, Prif Reoleiddiwr Ofqual. 

Gyda'i gilydd, bydd y panel yn ystyried cerrig milltir rheoleiddiol, parodrwydd ysgolion a cholegau, strategaethau byrddau arholi, a'r sylfeini technolegol angenrheidiol i sicrhau bod y cyfnod pontio i asesu digidol yn un sicr ac yn gallu ehangu. 

Cynhelir y sgwrs ar 22 Ionawr, 10:15 – 10:45 yn yr Arena. I gael gwybod mwy am Bett UK 2026 ac i archebu eich lle, ewch i'w gwefan. 

I ddysgu mwy am asesu ar-lein gyda CBAC, ewch i'n gwefan.