Y cymwysterau newydd sy'n rhoi'r mewnwelediad cyntaf i bobl ifanc i sectorau hanfodol Cymru


Mae Cymru yn adeiladu ar system addysg sy'n gwerthfawrogi pob dysgwr a phob llwybr. Yn ganolog i hyn mae llunio cymwysterau galwedigaethol sy'n drylwyr, yn berthnasol, ac sydd wir yn agor drysau i bobl ifanc. 

Fel yr unig gorff dyfarnu sy'n darparu TGAU Gwneud-i-Gymru, cymwysterau Galwedigaethol, a chymwysterau seiliedig ar Sgiliau yn rhan o'r Cynnig Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol, mae CBAC yn chwarae rhan unigryw yn y broses o droi'r weledigaeth honno’n realiti. Yma, mae Richard Harry, Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu, yn adfyfyrio ar yr hyn mae'n ei gymryd i lunio cymwysterau sydd wir yn gweithio i ddysgwyr, i gyflogwyr, ac i Gymru. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sefyllfa addysg yng Nghymru wedi trawsnewid yn llwyr.  

Yn ganolog i'r newid hwn mae datblygiad cyfres newydd o gymwysterau: llwybrau galwedigaethol sydd wedi'u llunio'n ofalus i adlewyrchu uchelgeisiau ein cwricwlwm cenedlaethol ac i roi mewnwelediad ystyrlon i bobl ifanc i sectorau allweddol Cymru.  

Mae'r cymwysterau hyn yn ffurfio rhan o broses ddiwygio Cymwysterau Cymru, ac maen nhw wedi'u llunio i ehangu profiadau dysgwyr, cryfhau eu dealltwriaeth o gyd-destunau byd go iawn, a'u helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol yn economi Cymru sy'n datblygu. 

Mae Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo amrywiaeth o gymwysterau Lefel 1/2 Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) a chymwysterau Sylfaen newydd wedi'u datblygu gan CBAC. Ni felly yw’r corff dyfarnu cyntaf i sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer Ton 3 y broses diwygio cymwysterau 14-16 Cenedlaethol ac yn atgyfnerthu ei rôl o ran darparu cymwysterau Gwneud-i-Gymru o ansawdd uchel sy'n cyfateb i'r Cwricwlwm i Gymru.  

Bydd y cymwysterau hyn yn cynnig mwy o ddewis ac amrywiaeth ehangach o sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol, gan ategu cymwysterau TGAU traddodiadol. 

Mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo yn cynnwys TAAU Lefel 1 a 2 ar draws sectorau fel yr Amgylchedd Adeiledig, Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, Technoleg, Lletygarwch ac Arlwyo, a Theithio a Thwristiaeth, ynghyd â chymwysterau Lefel Mynediad a Lefel 1 Sylfaen mewn meysydd gan gynnwys Cymraeg a Dylunio a Thechnoleg. Byddan nhw'n cael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. 

Llunio cymwysterau cadarn i gefnogi dilyniant dysgwyr 

Wrth i ni baratoi'r cymwysterau hyn i'w defnyddio'n ehangach, mae'n bwysig deall pam maen nhw'n bwysig, a'r hyn sy'n eu gwneud yn unigryw werthfawr i Gymru gyfan, yn ogystal â dysgwyr heddiw. 

Mae'r cymwysterau hyn wedi'u llunio'n benodol i Gymru sy'n golygu eu bod nhw'n cyfateb yn agos i'r Cwricwlwm i Gymru a'r sectorau y gall dysgwyr ddewis eu dilyn yn y pen draw.  

Maen nhw'n cynnig mewnwelediad ystyrlon i bobl ifanc i amgylcheddau gweithio byd go iawn, gan gefnogi dealltwriaeth gliriach o sut mae diwydiannau'n gweithredu a'r cyfleoedd sydd ar gael i symud ymlaen. 

Mae adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi atgyfnerthu maint y dasg o'n blaenau. Amlygodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig sicrhau bod llwybrau galwedigaethol yn gydlynol, wedi'u deall yn glir ac yn cyfateb yn dda i lwybrau ôl-16, gan nodi bod angen parhau i weithio i gryfhau dilyniant a chefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw symud drwy'r system.  

Mae'r adborth hwn yn pwysleisio ein cyfrifoldeb ni o ran llunio cymwysterau sydd wir yn helpu pobl ifanc i ddewis eu camau nesaf yn hyderus. 

Fel CBAC, ein rôl yw cymryd uchelgeisiau'r rhaglen ddiwygio a'u troi'n gymwysterau ymarferol o ansawdd uchel sy'n gweithio i ysgolion, colegau, a dysgwyr ledled Cymru.  

Rhoi polisi ar waith drwy bartneriaethau â diwydiant 

Er mai Cymwysterau Cymru sy'n pennu'r cyfeiriad, ni sy'n dylunio'r cymwysterau eu hunain: y cynnwys, y modelau asesu, y deunyddiau dwyieithog, a'r gefnogaeth sy'n galluogi addysgu effeithiol.  

Yn ogystal â hyrwyddo'r cymwysterau hyn, rydym yn canolbwyntio ar eu llunio drwy ddatblygu dan arweiniad tystiolaeth, partneriaethau cryf â diwydiant, a'n profiad o'r hyn sy'n cynnig gwerth go iawn yn yr ystafell ddosbarth. 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn gosod her glir ar gyfer y llwybrau galwedigaethol newydd: mae'n rhaid iddyn nhw sefyll allan yn hyderus yn ymyl llwybrau academaidd traddodiadol, cynnig dilyniant cydlynol, a rhoi'r wybodaeth a'r profiadau i ddysgwyr sy'n cefnogi astudiaeth bellach a gwaith. 

Nid ymarfer y tu ôl i ddrysau caeedig yw’r broses o lunio cymhwyster; rydym wedi ymgysylltu â chyflogwyr, cyrff diwydiant a sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, partneriaid lletygarwch, ac arweinwyr yn y sector cyhoeddus. 

Ar y llwybr lletygarwch ac arlwyo, er enghraifft, gall dysgwyr ennill Tystysgrif Diogelwch Bwyd, Hylendid ac Alergenau fewnblanedig sydd wedi'i chymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n dangos eu bod yn deall safonau diwydiant cydnabyddedig ac yn gallu eu cymhwyso. 

Mae partneriaethau'n agor drysau hefyd. Drwy gydweithio â phartneriaid diwydiant ledled Cymru, rydym yn helpu pobl ifanc i ddeall yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw ym mhob sector.  

Beth mae'r cymwysterau hyn yn ei gynnig i ddysgwyr, i ysgolion, ac i Gymru? 

Mae cymwysterau galwedigaethol wedi dioddef yn hir gan ganfyddiadau sydd wedi dyddio, ac maen nhw'n aml yn cael eu hystyried yn llwybrau ail ddewis.  

Mae'r cymwysterau hyn yn herio'r ffordd hon o feddwl drwy ddangos yr amrywiaeth o rolau, cyfrifoldebau, a llwybrau gyrfa sy'n bodoli i ddysgwyr, o feistroli logisteg ym maes adwerthu i ymgysylltu â'r gymuned ym maes gwasanaethau cyhoeddus neu gymhwyso sgiliau creadigol a thechnegol ym meysydd peirianneg ac arlwyo.  

Mae'r gwelededd hwn yn bwysig; mae'n helpu pobl ifanc i weld eu hunain yn rhan o'r diwydiannau hyn a chydnabod y pwrpas ehangach y tu ôl i'w hastudiaethau. 

Yn sylfaenol, mae'r cymwysterau hyn wedi'u llunio'n rhan o ecosystem addysgol gydlynol. Nid ydyn nhw'n gymwysterau ar wahân i TGAU, ond yn hytrach yn eu hategu ac yn eu cyfoethogi.  

Drwy gynnig darpariaeth ddwyieithog ar draws y Gymraeg a'r Saesneg, maen nhw'n cefnogi ein hymrwymiad cenedlaethol i gynhwysiant ieithyddol. Ac, yn hollbwysig, maen nhw wedi'u mapio'n uniongyrchol i bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod gan bob dysgwr y meddylfryd a'r gallu, yn ogystal â'r sgìl technegol, sydd eu hangen ar gyfer bywyd modern.  

Mae uchelgais, creadigrwydd, dinasyddiaeth foesegol, a hyder personol wedi'u plethu yn nyluniad pob cymhwyster, gan baratoi dysgwyr i ffynnu ymhell ar ôl iddyn nhw adael addysg orfodol. 

Ac mae'r manteision yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. I ddysgwyr, mae'r cymwysterau hyn yn rhoi hyder, gallu ymarferol, ac ymdeimlad o gyfeiriad. I rieni ac athrawon, maen nhw'n cynnig sicrwydd bod y llwybr galwedigaethol yn drylwyr, yn gredadwy, ac yn uchel ei barch. I gyflogwyr, maen nhw'n cynrychioli cronfa o bobl ifanc sy'n barod ar gyfer y gweithle, sydd wedi'u seilio mewn profiad go iawn, ac sy'n cyfateb i anghenion diwydiant.  

Wrth i Gymru barhau i ail-lunio ei blaenoriaethau economaidd, gan gynnwys lletygarwch, twristiaeth, yr economi sylfaenol, arloesedd digidol, a thwf gwyrdd, bydd ein cymwysterau yn chwarae rhan allweddol wrth baratoi gweithlu'r dyfodol. 

Cymwysterau ymatebol, perthnasol ac uchelgeisiol 

Rydym yn cydnabod hefyd nad digwyddiad untro yw diwygio. Mae gwelliant parhaus wedi'i fewnblannu yn y broses o ddylunio a gweithredu'r cymwysterau hyn. Wrth eu cyflwyno, byddwn yn defnyddio prosesau adborth, gwerthuso, ac ymgysylltu parhaus â sectorau ac ymarferwyr i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn aros yn ymatebol, yn berthnasol, ac yn uchelgeisiol. 

Mae'r ymrwymiad hwn i ddatblygu dan arweiniad tystiolaeth yn adlewyrchu argymhellion adroddiad y Senedd, sy'n galw am fonitro cyson a chydweithio ystyrlon â rhanddeiliaid ar draws y byd addysg a chyflogaeth. 

O ran y dyfodol, rydym am i ddysgwyr gael eu grymuso gan ddewis, eu cefnogi gan gyfleoedd, a theimlo'n hyderus bod eu cymhwyster yn agor drysau iddyn nhw.  

Ac rydym am i Gymru arwain yn hytrach na dilyn o ran dylunio addysg sy'n adlewyrchu realiti bywyd modern a'r gofynion sy'n datblygu yn y gweithle. Rydym am i gyflogwyr ledled Cymru gydnabod a gwerthfawrogi dysgwyr am eu gwydnwch, eu creadigrwydd, a'u parodrwydd i gyfrannu.  

Mae'r cymwysterau hyn yn fwy na dim ond cyfres o gyrsiau newydd. Maen nhw'n ddatganiad o fwriad: bod Cymru yn gwerthfawrogi pob dysgwr, pob llwybr, a phob uchelgais.  

Drwy baru trylwyredd a pherthnasedd, partneriaeth a phwrpas, a gweledigaeth genedlaethol ac angen lleol, rydym yn codi'r safon ar gyfer addysg alwedigaethol.  

Bydd y cymwysterau hyn yn helpu i lunio cenhedlaeth sy'n barod i ffynnu yng Nghymru a thu hwnt, sydd â'r sgiliau, yr hyder, a'r mewnwelediad i lwyddo ar eu telerau eu hunain. 

I ddysgu mwy am ein cymwysterau Ton 3, ewch i www.cbac.co.uk/Ton3.