Welwn ni chi yn Eisteddfod yr Urdd!
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd 2026.
Pryd? Dydd Sadwrn 23 Mai - Dydd Gwener 29 Mai, 2026
Lle? Cae Sioe Môn, Ynys Môn
Am y digwyddiad
Gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop yw Eisteddfod yr Urdd - digwyddiad hollbwysig yng nghalendr Cymru! Daw pobl o bob oed a chefndir at ei gilydd yn rhan o'r ŵyl Gymreig hon i ddathlu ac arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a’r diwylliant yng Nghymru. Caiff miloedd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eu denu i'r Eisteddfod bob blwyddyn.
Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yn Ynys Môn ar ôl ymweld â’r lle ddiwethaf yn 2004, ac mae disgwyl i dros 100,000 o bobl ymgynnull ar ei chyfer. Am y tro cyntaf, bydd yr Eisteddfod yn para wythnos, sy’n adlewyrchu pa mor boblogaidd yw’r ŵyl, ei thwf a'i harwyddocâd yn niwylliant Cymru.
Peidiwch â cholli'r cyfle – dewch i ymuno â ni! I ddysgu mwy ac i gadw eich lle, cliciwch yma.
Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand CBAC, i'w ddweud am ein rhan yn yr Eisteddfod eleni:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi'r ŵyl fawreddog hon eto eleni. Dyma gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a'r iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y rhai fydd yn mynychu, ac arddangos y gefnogaeth eang rydyn ni'n ei gynnig."
Cwrdd â'r tîm
Dewch draw i’n gweld i gael sgwrs gyfeillgar a mwynhau rhai o'n gemau, neu ymlacio ychydig gyda gweithgareddau celf a chrefft a llyfr da.
Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin arddangos i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cymwysterau Ton 3 ac i arddangos ein hamrywiaeth diguro o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Pob Lwc!
Pob lwc i'r unigolion fydd yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod! ‘Pob lwc'!