Trefniadau i ymgeiswyr sy’n cwblhau TGAU a Safon Uwch yn Haf 2021

Trefniadau i ymgeiswyr sy’n cwblhau TGAU a Safon Uwch yn Haf 2021

Deallwn fod hwn yn gyfnod ansicr i ddysgwyr ac athrawon. Mae llawer o bobl yn holi am yr hyn sy’n digwydd o ran cofrestru am unedau a dyfarnu cymwysterau yn haf 2021. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o drefniadau dyfarnu graddau yn haf 2020. Rydym yn disgwyl canlyniad yr adolygiad hwn ar hyn o bryd, ac mae’n debygol y bydd yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni’n mynd ati i weithredu ar gyfer cyfres haf 2021. Hefyd, rydym mewn cysylltiad agos â Cymwysterau Cymru. Ein nod yw rhoi diweddariad ar ddechrau mis Tachwedd, neu cyn hynny os yn bosibl. Hoffem eich sicrhau ar yr un pryd bod y wybodaeth yn llyfryn addasiadau pynciol CBAC TGAU a UG/Safon Uwch yn dal i fod yn berthnasol i asesiadau haf 2021. Diolch i chi am barhau i fod yn amyneddgar.

Mae ceisiadau ar gyfer y 7fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol nawr AR AGOR
Mae ceisiadau ar gyfer y 7fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol AR AGOR
Blaenorol
Blwyddyn academaidd newydd  ̶  cydweithio â'r gymuned addysg gyfan
Blwyddyn academaidd newydd - cydweithio â'r gymuned addysg gyfan
Nesaf