Mae ceisiadau ar gyfer y 7fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol nawr AR AGOR
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobrau Delwedd Symudol 2020 ar agor. Mae'r gwobrau yn cydnabod y myfyrwyr ffilm a chyfryngau CBAC Eduqas gorau ar draws y DU a thramor mewn categorïau fel Ffilm Fer/Darn o Deledu i Fideo Cerddoriaeth a mwy. Mae wedi ennill cefnogaeth gan athrawon a darlithwyr mewn amrywiaeth o sefydliadau, yn ogystal â gan ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a gwblhaodd eu gwaith ond nad oedden nhw'n gallu cyflwyno'r asesiad di-arholiad i'w asesu yn 2020 oherwydd Covid19.
Bydd y seremoni wobrwyo unigryw, sy'n cael ei threfnu gan CBAC/Eduqas ar y cyd â'r British Film Institute (BFI), yn digwydd ar-lein yn Ionawr 2021 a bydd nifer o ffigyrau blaenllaw o'r diwydiant ffilm yn rhan ohoni.
Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm: "Hoffai CBAC/Eduqas gydnabod a gwobrwyo gwaith caled a chflawniadau ymgeiswyr ar ôl blwyddyn anodd iawn. Rydym yn edrych ymlaen at weld a dathlu'r gwaith mae myfyrwyr wedi'i greu ond, yn anffodus, na wnaeth ein cyrraedd ni oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth ni a nhw."
Categorïau
Rydym yn gwobrwyo 5 categori, sy'n cynnwys:
- Animeiddiad Gorau
- Fideo Cerddoriaeth Gorau
- Sgript Ffilm Orau
- Darn o Deledu/Ffilm Gorau
- Ffilm Fer Orau
I weld ceisiadau blaenorol a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer a'r rhai a enillodd, ewch i'n sianel YouTube.
Anfon cais heddiw
I anfon cais, llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch hi i ni erbyn 30 Hydref 2020.
Mae gwybodaeth bellach ar sut i wneud cais, gan gynnwys y ffurflen gais, i'w gweld ar y wefan.