TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr!

TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr!

I gefnogi ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, rydym yn falch o gyhoeddi ein hamserlen newydd o gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim. Bydd ein harbenigwyr ar y manylebau sydd wedi derbyn hyfforddiant yn darparu'r cyrsiau hyn ledled y wlad ar gyfer y clwstwr cyntaf o gymwysterau, sy'n cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.

Dywedodd Nia Jones, Rheolwr Dysgu Proffesiynol: "Rydym yn falch o gynnig pecyn pwrpasol a chynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i athrawon ledled Cymru, a fydd yn eu galluogi i gyflwyno ein cymwysterau newydd yn hyderus."

I weld ein hamserlen ac i gadw eich lle (bydd cofrestru yn agor yn ystod tymor yr haf 2024), ewch i'n tudalen we Dysgu Proffesiynol.

Cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb

Mae ein cyrsiau'n cynnwys cymysgedd o hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb, a byddant yn cael eu cynnal yn ystod y 18 mis nesaf:

Gwanwyn 2024 Deunydd anghydamseredig yn amlygu nodweddion allweddol pob cymhwyster newydd a sut y byddant yn cael eu hasesu.
Hydref 2024 Deunydd anghydamseredig yn cyflwyno pob manyleb sydd newydd ei chyhoeddi, gyda digwyddiadau holi ac ateb ar-lein byw i ddilyn.
Gwanwyn 2024 Cyflwyniadau anghydamseredig i gefnogi dealltwriaeth o'r trefniadau asesu ar gyfer pob cymhwyster newydd.
Gwanwyn 2024 Sioeau Teithiol ledled Cymru: Digwyddiadau "Paratoi i Addysgu" wyneb yn wyneb.

 

Sioeau Teithiol ledled Cymru

Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Consortia Rhanbarthol a CYDAG (cyfrwng Cymraeg) i hwyluso mynediad athrawon at ein cyfres o ddigwyddiadau "Paratoi i Addysgu" wyneb yn wyneb. Mae penaethiaid ar draws Cymru, mewn partneriaeth â'u Hawdurdod Lleol, wedi cytuno i gau ysgolion ar gyfer HMS ar ddyddiau penodol, fel y gall cymaint o athrawon pwnc â phosibl fynychu'r digwyddiadau hyn. Bydd y cynllun ledled Cymru digynsail hwn yn gweld ysgolion mewn clystyrau o Awdurdodau Lleol ac ysgolion sy'n gysylltiedig â CYDAG yn cau er mwyn i CBAC ddarparu HMS ar ddiwrnod dynodedig rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025. Gan gydweithio, byddwn yn darparu 15 o ddigwyddiadau Dysgu Proffesiynol mewn ysgolion ar bob diwrnod HMS ar draws Cymru.

Bydd dyddiadau eich HMS clwstwr ar gael yn fuan, a bydd manylion ynghylch sut y gallwch chi/eich ysgol gofrestru yn dilyn yn nhymor yr haf.

Byddwch yn rhan o'n tîm o gyflwynwyr arbenigol

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn rhan o'n tîm o gyflwynwyr Dysgu Proffesiynol, anfonwch neges e-bost yn mynegi eich diddordeb at dpp@cbac.co.uk, gan nodi eich enw, enw eich canolfan (lle y bo'n berthnasol), eich maes pwnc arbenigol a rhywfaint o wybodaeth am eich profiad addysgu/arholi a pham mae gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon. Yn rhan o'r tîm, byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn gan ein harbenigwyr ar y pynciau/manylebau.

Y newyddion diweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwnaed i Gymru. Yn barod i'r byd' ar y we. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd hyn.