Sicrhau bod llais ein dysgwyr i'w glywed

Sicrhau bod llais ein dysgwyr i'w glywed

Mae datblygu'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig yn dasg hynod bwysig. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a byddant yn helpu i gefnogi datblygiad ein dysgwyr, gan eu galluogi i symud ymlaen ym mha bynnag lwybr y maent yn dewis ei ddilyn. Fel rhan o'r broses ddatblygu, rydym yn mabwysiadu dull cyd-awduro, lle byddwn yn gwrando ar leisiau cymunedau addysg ledled y wlad. Yn CBAC, mae dysgwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, a bydd eu barn yn helpu i lywio ein gwaith datblygu, ac felly rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn lansio Grŵp Cynghori Dysgwyr newydd yr hydref hwn.

Rydym yn siarad â Leah Maloney a Paul Evans, dau o'n Swyddogion Datblygu Cymwysterau ynghylch pam rydym yn gwerthfawrogi barn dysgwyr, a'r rôl arwyddocaol ein Grŵp Cynghori Dysgwyr  wrth ddatblygu ein cymwysterau newydd.

Pam mae ein Grŵp Cynghori Dysgwyr yn bwysig?

Yn CBAC, rydym yn credu ei fod yn hanfodol gwrando ar leisiau dysgwyr - i'r rhai sydd wedi cymryd ein cymwysterau a'r rhai a fydd yn eu dilyn yn y blynyddoedd i ddod. Maen nhw'n rhoi mewnwelediad i ni, ac yn herio ein ffordd o feddwl, gan ein galluogi i ystyried safbwyntiau gwahanol a meddwl beth sy'n bwysig iddyn nhw. Trwy gael sgyrsiau agored gyda nhw, gallwn drafod sut mae'r cymwysterau'n cael eu hasesu, yr hyn maen nhw'n teimlo sy'n gweithio a pha newidiadau maen nhw'n teimlo fydd yn effeithio arnyn nhw.

Yn ogystal, credwn yn gryf ei bod yn bwysig bod ein cymwysterau'n gynhwysol, ac felly rydym am ystyried barn dysgwyr o bob cefndir, er mwyn sicrhau eu bod yn cytuno â’r cynnwys a’i fod yn adlewyrchu eu bywydau nhw.

Sut bydd ein dysgwyr yn elwa o fod yn aelod o'n Grŵp Cynghori Dysgwyr?

Dyma eu cyfle i wneud newid go iawn a dylanwadu ar ddyfodol cymwysterau yng Nghymru. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr addysg proffesiynol a dysgwyr ledled Cymru, a fydd yn rhannu ond hefyd yn herio eu barn. Trwy eu trafodaethau, byddant yn ystyried safbwyntiau gwahanol ac yn gweithio gyda'i gilydd i feddwl am syniadau ac atebion.

Ar ben hynny, byddant yn rhoi amrywiaeth o sgiliau ar waith gan gynnwys cyfathrebu a datrys problemau, sgiliau a fydd yn edrych yn wych ar eu CV pan fyddant yn edrych ar gyfleoedd yn y dyfodol e.e. coleg, prifysgol neu waith.

Beth fydd yn digwydd yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynghori Dysgwyr?

Cynhelir cyfarfodydd o leiaf 3 gwaith y flwyddyn a byddant yn gymysgedd o gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu harwain gan ein Tîm Datblygu Cymwysterau lle bydd ein dysgwyr yn trafod gwahanol agweddau ar y cymwysterau newydd, gan gynnwys testunau fel cynnwys pwnc a dulliau asesu. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ystyried ein syniadau a rhoi eu barn a'u hawgrymiadau.

Sut bydd adborth y dysgwyr yn helpu i ddatblygu'r cymwysterau newydd?

Bydd ein tîm yn ystyried eu hadborth a gweld lle y gellir ymgorffori eu syniadau lle bo hynny'n briodol. Ein nod yw creu cyfres o gymwysterau cynhwysol, deniadol ac ysbrydoledig ar gyfer Cymru gyfan, o gynnwys y cymwysterau i'r asesiadau. Mae barn ein dysgwyr yn rhan hynod bwysig o'r broses ddatblygu.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cymwysterau newydd ar gyfer Cymru a'n Grŵp Cynghori Dysgwyr, ewch i'n tudalen we bwrpasol a dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.