Sicrhau bod disgyblion yn ddiogel ar-lein – adnoddau i athrawon
Gyda dros draean o bobl yn eu harddegau yn treulio o leiaf 3 awr ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd yn ôl rhai amcangyfrifon, mae dylanwad y byd ar-lein ar yr ystafell ddosbarth yn cynyddu.
Gallai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hunanfynegiant, dysgu ac adloniant. Fodd bynnag, gallai hefyd adael pobl ifanc yn agored i amrywiaeth eang o risgiau. Mae seiberfwlio, cynnwys amhriodol a diwylliant gwenwynig dylanwadwyr yn enghreifftiau o rai o'r peryglon posibl y gallan nhw eu hwynebu.
Yn ôl ffigurau gan Ofcom, mae dros 67% o bobl ifanc wedi dod ar draws cynnwys niweidiol ar-lein, gyda bron i 20% o blant rhwng 8 ac 15 oed wedi dioddef bwlio ar-lein. Mae ysgolion ar draws y DU wedi mynegi pryderon dros effaith dylanwadwyr ar agweddau ac ymddygiad, gyda rhai yn cynnal gwasanaethau a gwersi arbennig mewn ymateb.
O ystyried y rôl hanfodol y mae athrawon yn ei chwarae o ran diogelu eu disgyblion, mae ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a ble i droi am gefnogaeth yn bwysicach nag erioed.
Adnoddau Diogelwch Ar-lein
Gofynnom i'r South West Grid for Learning (SWGfL), elusen flaenllaw mewn perthynas â diogelwch ar-lein ac sy'n rhan o'r UK Safer Internet Centre, i rannu rhai o'u hadnoddau gorau ar gyfer athrawon sy'n pryderu am ddiogelwch eu disgyblion ar-lein.
Dyma oedd gan David Wright, Prif Weithredwr SWGfL a Chyfarwyddwr UK Safer Internet Centre i’w ddweud am bwysigrwydd diogelwch ar-lein: "Am dros 20 mlynedd rydym wedi gweld datblygiad helaeth technoleg ar-lein. Bob blwyddyn, mae'r esblygiad hwn yn cyflwyno heriau newydd y mae angen i athrawon a gweithwyr proffesiynol y byd addysg fod yn ymwybodol ohonyn nhw er mwyn iddyn nhw allu parhau i gefnogi pobl ifanc gyda'u defnydd o dechnoleg, heb unrhyw niwed. Mae'r adnoddau hyn sy'n rhad ac am ddim yno i roi'r offer cywir i gymunedau ysgolion allu datblygu eu hymagwedd tuag at ddiogelwch ar-lein. Dylai pawb fanteisio o dechnoleg heb ddioddef unrhyw niwed ac rydym yn gobeithio y gallai'r rhain eich arwain a'ch cefnogi ar hyd y ffordd."
- Mae ProjectEVOLVE yn cynnig amrywiaeth o adnoddau cwricwlwm i athrawon er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth am amrywiaeth o senarios ar-lein. Mae'r pecyn cymorth arobryn hwn sydd i'w gael ar-lein yn rhad ac am ddim yn archwilio amrywiaeth o destunau megis gwybodaeth anghywir a bwlio ar-lein.
- Mae 360 Safe yn adnodd rhad ac am ddim sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu eu polisi a'u harfer diogelwch ar-lein. Gweithio tuag at safonau priodol a chael ardystiad ar ôl cyflawni.
- Mae Hwb Llesiant Digidol y SWGfl yn cynnig arweiniad a gwybodaeth i gefnogi pobl ifanc i lywio drwy'r byd ar-lein mewn ffordd gadarnhaol. Mae'r hwb yn cynnwys canllawiau a chyngor am ddylanwadwyr, cynnwys dylanwadwyr a sut gall pobl ifanc weld pa gynnwys maen nhw'n ei weld.
- Mae Hwb Cyfryngau Cymdeithasol y SWGfL yn archwilio sut gall pobl ifanc fwynhau'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd gadarnhaol. Mae'r dudalen yn cynnwys ffocws ar y testun gwybodaeth anghywir, sut gall pobl ifanc reoli'r cynnwys hwn a sut gallan nhw ddatblygu eu dealltwriaeth o amgylch y cynnwys maen nhw'n ei weld.
- Mae'r Report Harmful Content Service yn rhoi cefnogaeth i unrhyw un dros 13 oed i adrodd am gynnwys sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol ar draws amrywiaeth eang o sianeli a llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol. Gall ysgolion a cholegau hefyd lwytho i lawr Botwm Adrodd am Gynnwys Niweidiol a'i osod ar eu gwefannau, gan gynnig ffordd hawdd i ddisgyblion a rhieni adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein.
- Mae Llinell Gymorth Professionals Online Safety yn rhoi cefnogaeth i athrawon a gweithwyr proffesiynol o amgylch unrhyw fater diogelwch ar-lein y maen nhw neu'r bobl ifanc yn eu gofal yn ei wynebu.
- Mae Rhestri Gwirio Cyfryngau Cymdeithasol y SWGfL, a grëwyd mewn partneriaeth â'r UK Safer Internet Centre, wedi'u cynllunio i gefnogi pobl ifanc i reoli eu diogelwch a'u preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae rhestri gwirio ar gael ar gyfer platfformau gan gynnwys Yubo, Facebook, Instagram, TikTok a Snapchat, ac maen nhw'n addas ar gyfer athrawon, rhieni, gofalwyr a myfyrwyr.
- Mae SWGfL hefyd yn cynnal digwyddiadau byw Diogelwch Ar-lein, wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r digwyddiadau hyn yn sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol gael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg ar-lein a'r arferion i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel.
- Yn olaf, gall y sawl sy'n gwrando ar bodlediadau gael y wybodaeth ddiweddaraf am y materion diogelwch ar-lein amlycaf drwy wrando ar Interface, cyfres newydd o bodlediadau gan SWGfL. Mae penodau blaenorol yn archwilio llesiant ar-lein, bwlio a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae Bobby Seagull, Alex Holmes (o elusen The Diana Award) ac Alexandra Evans o TikTok wedi ymuno â chyflwynwyr Interface. Gallwch wrando ar yr holl benodau yma.
Bydd yr UK Safer Internet Centre yn cydlynu'r Safer Internet Day yn y DU ddydd Mawrth 7 Chwefror 2023. Mwy o wybodaeth am y digwyddiad a mynegi eich cefnogaeth.