Sefydliad cynaliadwyedd blaenllaw yn partneru gyda CBAC i hybu llwybrau gwyrdd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r Academi Cynaliadwyedd, sydd bellach yn ganolfan gymeradwy i gyflwyno'r gyfres lawn o gymwysterau Cynaliadwyedd CBAC. Mae hyn yn cynnwys ein cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol, sydd bellach yn gymwys ar gyfer cyllid drwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru.

   

 

Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol CBAC:

"Mae ein partneriaeth â'r Academi Cynaliadwyedd yn gam sylweddol ymlaen. Mae eu harbenigedd helaeth wrth ddarparu hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn cyd-fynd yn gryf â'n gweledigaeth ar gyfer y cymwysterau hyn. 

Rydym wedi datblygu ein cymwysterau Cynaliadwyedd i ddarparu dull ymarferol, cymhwysol, gan roi sgiliau i ddysgwyr y gellir eu defnyddio yn eu canolfan, eu gweithle, a thu hwnt. 

Gyda phwyslais cynyddol ar sgiliau gwyrdd, bydd y cymwysterau hyn yn cefnogi gweithwyr a dysgwyr sy'n oedolion i ymateb yn rhagweithiol i heriau amgylcheddol byd-eang a chymryd camau ystyrlon tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.” 

Dywedodd Gary Carney, Cyd-sylfaenydd yr Academi Cynaliadwyedd:

"Mae'n foment nodedig nid yn unig i'r Academi Cynaliadwyedd, ond ar gyfer addysg gynaliadwyedd yng Nghymru, i gael ein hachredu gan CBAC fel y ganolfan annibynnol gyntaf i gyflwyno'r gyfres gymwysterau hon. Mae CBAC wedi datblygu rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol yma: cyfres o gymwysterau wedi'u hadeiladu o amgylch deddfwriaeth Cymru, gwerthoedd Cymru, a'r dyfodol Mae Cymru wedi ymrwymo i'w hadeiladu." 

Ychwanegodd Sara Wilcock, Cyd-sylfaenydd yr Academi Cynaliadwyedd:

"Yr hyn sy'n ein cyffroi fwyaf yw'r hyn y mae hyn yn ei wneud yn bosibl. Mae gan bob sefydliad yng Nghymru, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, busnesau a chyflogwyr y trydydd sector, bellach fynediad at gymhwyster cynaliadwyedd sy'n cael ei ariannu'n llawn, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac sy'n uniongyrchol berthnasol i'r gwaith y maent yn ei wneud bob dydd. Mae'r cyrhaeddiad posibl o hynny yn enfawr, a dim ond megis dechrau ydyn ni.”

  

Ynglŷn â'r Academi Cynaliadwyedd 

Mae'r Academi Cynaliadwyedd yn ddarparwr addysg cynaliadwyedd arbenigol, a sefydlwyd yn 2020, sy'n cefnogi sefydliadau i ymgorffori meddwl cynaliadwy ar draws eu gweithlu. Gan weithio gyda busnesau, cyrff cyhoeddus, a sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys Thames Water, Asian Development Bank, y Llynges Frenhinol, a Chadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, mae'n dylunio ac yn cyflwyno rhaglenni dysgu pwrpasol sy'n meithrin gwybodaeth ymarferol, newid ymddygiad, a chynhyrchu tystiolaeth fesuradwy o newid. 

Gydag arbenigedd yn rhychwantu sefydliadau fel United Nations Global Compact a llywodraeth ganolog, mae ei sylfaenwyr yn dod â phrofiad sylweddol o drawsnewid strategaethau cynaliadwyedd cymhleth i ddysgu hygyrch ar bob lefel o sefydliad. 

Cymwysterau cynaliadwyedd a chyllid  

Mae cymwysterau Cynaliadwyedd CBAC wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda'r nod o gefnogi'r agenda werdd a rhoi sgiliau i ddysgwyr y gallant eu defnyddio yn y gweithle. Maent yn darparu llwybrau gwyrddach i ddysgwyr a gweithwyr ledled Cymru, gan helpu i feithrin y sgiliau cynaliadwyedd hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. 

Mae cyllid ar gyfer ein cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol ar gael drwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Mae'r cymhwyster yn bodloni meini prawf y Sgiliau Gwyrdd ac mae ar gael i ddysgwyr 19 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Hoffech chi wybod mwy? 

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cymwysterau Cynaliadwyedd, ac eisiau gwybod mwy am ddilyn y cwrs, anfonwch e-bost at cynaliadwyedd@cbac.co.uk