Sefydliad blaenllaw ym maes hyfforddiant a chyflogadwyedd yn partneru gyda CBAC i hyrwyddo llwybrau newydd at gyflogaeth

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth estynedig gyda PeoplePlus, a fydd yn golygu y bydd y sefydliad yn darparu cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth CBAC i ddysgwyr ledled y DU. 

Yn rhan o'r bartneriaeth hon, bydd ein cymhwyster Paratoi am Gyflogaeth yn elfen allweddol o daith y dysgwr o fewn rhaglen JGW+, gan gefnogi cyfranogwyr cymwys i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy. 

Yn ogystal, mae PeoplePlus yn ehangu'r ddarpariaeth o'n cymwysterau i faes addysg mewn carchardai drwy raglen beilot a noddir gan gyflogwyr. Nod y fenter yw cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, cynnig cyfleoedd cyfweld, ac, lle bo'n briodol, eu cefnogi i symud ymlaen i gyflogaeth. 

Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol CBAC: 

Steffan Edwars (Colour)

"Rydym yn falch iawn o ehangu ein partneriaeth gyda PeoplePlus a chefnogi hyd yn oed mwy o ddysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y gweithle." 

Mae ein cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth wedi'u cynllunio'n benodol i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd hanfodol sydd eu hangen i sicrhau a chynnal cyflogaeth, gan alluogi dysgwyr ar yr un pryd i archwilio gwahanol sectorau a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu gyrfaoedd. 

Drwy'r bartneriaeth hon, bydd dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i feithrin eu hyder, gwella eu rhagolygon am gyflogaeth a chymryd camau cadarnhaol tuag at wireddu eu huchelgeisiau gyrfa." 

Ymatebodd Kelly Reynolds, Cyfarwyddwr Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar gyfer PeoplePlus, i'r bartneriaeth: 

Kerry

"Rydym yn falch o gyflwyno cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth CBAC, gan eu bod yn adlewyrchu'r diben sydd wrth wraidd gwaith PeoplePlus Cymru: newid bywydau, un unigolyn ar y tro. Rydym yn credu y dylai pawb, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, gael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.

Drwy'r rhaglen hon, rydym yn falch o gefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a'u dyheadau, gan eu helpu i gymryd camau ystyrlon tuag at gyflogaeth a dyfodol llewyrchus. Drwy weithio gyda CBAC, unigolion, cyflogwyr a’n cymunedau, rydym yn creu gwerth cymdeithasol ac yn cyfrannu at adeiladu cymdeithas lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu.” 

Ynglŷn â PeoplePlus  

Mae PeoplePlus yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, cymorth cyflogaeth ac addysg oedolion yn y DU. Mae PeoplePlus yn helpu pobl i ddod o hyd i waith, meithrin sgiliau newydd a byw'n fwy annibynnol. Mae wedi cefnogi mwy na dwy filiwn o bobl i sicrhau cyflogaeth, datblygu eu sgiliau neu wella eu cyfleoedd mewn bywyd. 

Llwybrau at Gyflogaeth 
Mae cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth CBAC wedi'u cynllunio i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd hanfodol sydd eu hangen i sicrhau a chynnal cyflogaeth. Drwy'r dull asesu hyblyg sy'n seiliedig ar bortffolio, gall dysgwyr feithrin gwybodaeth ymarferol mewn meysydd fel chwilio am waith, disgwyliadau yn y gweithle, cyfathrebu, gwaith tîm a sgiliau cyflogadwyedd sector-benodol, gan greu llwybr personol tuag at gyflogaeth. 

Hoffech chi wybod mwy? 

I ddarganfod mwy am ein cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth, cysylltwch â pathwaystoemployment@wjec.co.uk .