Recriwtio awduron cymwysterau sy'n ymroddedig i'n gweledigaeth

Recriwtio awduron cymwysterau sy'n ymroddedig i'n gweledigaeth

Gyda’r gwaith o ddatblygu ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig ar y gweill, buom yn siarad â Julie Rees, Rheolwr Cymwysterau, sy'n esbonio'r ymarfer recriwtio ar raddfa fawr yr ydym wedi'i gynnal ar gyfer arbenigwyr allanol i gefnogi ein Tîm Datblygu Cymwysterau.

'Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau, ac fel rhan o'n proses sefydledig, rydym yn recriwtio awduron ac adolygwyr allanol sy'n helpu i greu ein manylebau. Mae'r arbenigwyr pwnc hyn yn ein cefnogi i sicrhau bod ein cymwysterau'n aros yn driw i'n gweledigaeth ac yn bodloni gofynion rheoleiddiol, gan ysbrydoli a galluogi ein dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth i ffynnu mewn marchnad fyd-eang.

Fel gyda holl rolau CBAC, mae'r broses recriwtio yn gystadleuol ac yn drylwyr, gan ein galluogi i benodi unigolion sy'n ymdrechu i gyrraedd ein safonau uchel yn hyderus.  Dechreuodd y broses o recriwtio datblygwyr manylebau ym mis Mai. Roedd y diddordeb yn y rolau hyn yn well na'r disgwyl, a chawsom dros 700 o geisiadau ar draws pob maes pwnc.

Cyflwyno methodoleg recriwtio deg

'Fe wnaeth ein Swyddogion Datblygu Cymwysterau adolygu pob cais yn ofalus gan gymhwyso proses deg a thrylwyr. Roedd safon yr ymgeiswyr yn hynod o uchel, gan wneud llunio'r rhestr fer yn arbennig o heriol i'r tîm.

Yna dyfeisiodd ein tîm gyfres o dasgau, wedi'u teilwra tuag at y maes pwnc penodol a grëwŷd mewn ymgynghoriad â'n Timau Pwnc ac Asesu. Wedyn gofynnwyd i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau'r dasg, a oedd yn caniatáu i'n tîm werthuso eu sgiliau.

Cwblhawyd cyfanswm o dros 200 o dasgau, a gwahoddwyd dros 120 o ymgeiswyr i fynychu cyfweliad gyda phanel gan gynnwys Swyddog Datblygu Cymwysterau, Swyddog Pwnc ac aelod o'n tîm Penodedigion.

O ganlyniad i'r broses recriwtio hon, rydym wedi penodi grŵp cyntaf o dros 110 o awduron a adolygwyr i helpu i greu'r cymwysterau newydd. Bydd datblygiad y rhain yn cael eu rhannu ar draws dau gam, gyda phynciau 20 yn cael eu datblygu i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.'

Darparu hyfforddiant a chefnogaeth o safon

'Ein camau nesaf fydd darparu hyfforddiant wedi'i deilwra gyda'n tîm newydd, a fydd yn sicrhau eu bod yn hyderus i gynhyrchu cynnwys priodol ac ystyrlon ar gyfer y cymwysterau newydd, a'u bod yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy gydol tymor yr Hydref gan ein harbenigwyr cymwysterau a sefydliadau partner i ymdrin â materion sy'n ymwneud ag asesiadau megis amrywiaeth a chynhwysiant a Chwricwlwm i Gymru.'

Cefnogaeth y Grŵp Cynghori Pwnc

'Yn dilyn eu hyfforddiant, dan arweiniad ein Tîm Datblygu Cymwysterau, a gan ddefnyddio canlyniadau ein hymgynghoriadau i adborth ar gynigion amlinellol cymwysterau, byddant yn dechrau ysgrifennu cynnwys ar gyfer ein manylebau, a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan ein Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau. Mae gan bob pwnc grŵp cynghori pwrpasol eu hunain, sy'n cynnwys cynrychiolaeth eang o bob rhan o'r gymuned addysg a thu hwnt.

Bydd y grwpiau hyn yn darparu adborth gwrthrychol drwy gydol y broses ddatblygu, gan gynnig sianel i gael deialog barhaus, ac yn darparu cyfleoedd i roi adborth ar ein gwaith, tra'n sicrhau bod ein cymwysterau newydd yn bodloni meini prawf cymeradwyo rheoliadol Cymwysterau Cymru ac yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.

Dros y misoedd nesaf, bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu postio gan ein Tîm Datblygu Cymwysterau, ochr yn ochr â chyfleoedd i roi adborth ar ein cynigion. Wrth i ni barhau â'r daith hon, rydym yn hyderus y bydd ein tîm yn darparu cymwysterau cynhwysol a deniadol, sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.