Five ways our resources are supporting home learning

Pum ffordd mae ein hadnoddau'n cefnogi dysgu gartref

Mae athrawon a myfyrwyr yn meddwl yn greadigol am ffurfiau newydd o addysgu a dysgu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae ein tîm adnoddau wedi bod yn gweithio i gefnogi'r ymdrech hwn ac i gynnig adnoddau priodol, RHAD AC AM DDIM i gefnogi ffyrdd newydd o weithio. Dyma bump o bethau maen nhw wedi'u creu:

 

1) Adnoddau sy'n canolbwyntio ar y Myfyriwr: Cafodd yr holl gynnwys sydd gennym ei ddidoli. Yna, penderfynwyd pa adnoddau sy'n addas i'w defnyddio i ddysgu gartref. Mae tag 'canolbwyntio ar y myfyriwr' wedi'i roi ar bob un o'r adnoddau hyn. Byddwch chi wedyn yn gallu dweud, ar yr olwg gyntaf, p'un a yw’n addas i chi ar hyn o bryd ai  peidio.

2) Gweithgareddau Rhyngweithiol Newydd: Rydym yn ychwanegu at ein cronfa o gynnwys rhyngweithiol sy'n caniatáu i fyfyrwyr brofi eu gwybodaeth eu hunain, gan ddefnyddio gweithgareddau byr a chyflym sy'n marcio eu hunain.

3) Adnoddau Pellach: Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a Hwb yn cronni'r holl adnoddau sydd ar gael gan ddarparwyr ledled y wlad. Rydym yn cyfeirio'r holl gynnwys fel y bydd mwy o ddewis o gynnwys ar gael i bawb.

4) Diweddaru'r Banc Cwestiynau: Rydym yn diweddaru'r Banc Cwestiynau ar ein gwefan. Bydd mwy o gwestiynau o gyn bapurau ar gael i'r myfyrwyr felly ac mae'n parhau i dyfu.

5) Trefnwyr Gwybodaeth Newydd: Gan ddefnyddio ein Trefnwyr Gwybodaeth newydd, bydd myfyrwyr yn gallu adolygu gwybodaeth gryno am unrhyw bwnc penodol o un daflen. Bydd hi'n haws felly iddyn nhw weld y pwyntiau pwysicaf. Dyma enghraifft sy'n berthnasol i TGAU Saesneg Iaith.

 

Bwriad y dull dysgu o bell hwn sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yw sicrhau eich bod yn hyderus bod y cynnwys yn berthnasol i'n manylebau ni ac y bydd yn effeithiol wrth gefnogi'r myfyrwyr wrth iddyn nhw barhau i ddysgu.

Cofiwch, mae pawb yn y sefyllfa hon gyda'i gilydd. Mae ein hadnoddau ar gael ar-lein. Maen nhw'n rhad ac am ddim fel arfer a gall pawb gael mynediad atyn nhw.