Prif Weithredwr yn ymuno â phanel arbenigol i drafod cyfundrefn gymwysterau y dyfodol
Bydd Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan, yn ymuno â phanel o addysgwyr uchel eu parch mewn digwyddiad Fforwm Polisi i Gymru i drafod cyfundrefn gymwysterau newydd i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed.
Mewn sylw ar gymryd rhan yn y gynhadledd flaenllaw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Mae Cymwys ar gyfer y Dyfodol yn cynnig cyfle inni adolygu ein dull o ddylunio ac asesu cymwysterau. Trwy'r fenter hon, gall Cymru fod yn arweinwyr byd-eang, gan ddarparu gwell cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru ffynnu mewn marchnad fyd-eang.
Mae methodolegau addysgu a dysgu yn parhau i esblygu, fel y mae anghenion y cyflogwyr. Dylai cymwysterau barhau i ymateb i'r newidiadau hyn, drwy roi cyfleoedd i ddysgwyr arddangos y sgiliau a'r wybodaeth sy'n caniatáu iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Mae cynadleddau fel y rhain yn caniatáu i ni drafod a herio ein meddylfryd ein hunain, gan barhau ar yr un pryd i ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr dyfu.”
Yn ymuno ag Ian ar y drafodaeth banel hon fydd Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol Cymru, NASUWT a Hywel Parry, Pennaeth, Ysgol John Bright , lle byddant yn archwilio dylunio cymwysterau, dewis, cynnwys a systemau graddio. Bydd cyfleoedd am gwestiynau a sylwadau o'r llawr hefyd.
Cynnwys y Gynhadledd
Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Llun 5 Rhagfyr, ac yn archwilio'r gyfundrefn gymwysterau newydd yng Nghymru ar gyfer rhai rhwng 14 ac 16 oed. Mae'n dilyn cyhoeddi cynigion Cymwysterau Cymru ar gyfer y TGAU diwygiedig, ac wrth i'r rheoleiddiwr ymgynghori ar eu dyluniad a'u cynnwys.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau allweddol gan Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru; a Lucy Crehan, Ymgynghorydd Addysg Rhyngwladol.
Bydd gan gynrychiolwyr gyfle i drafod cyfeiriad cyfundrefn gymwysterau Cymru yn y dyfodol, ochr yn ochr â swyddogion polisi allweddol sydd i fod i fynychu o Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon; IPO; Senedd Cymru; a Llywodraeth Cymru.
I archebu'ch lle, ewch i wefan Fforwm Polisi Cymru.