Pecyn Adnoddau Digidol Cynhwysfawr rhad ac am ddim i gefnogi cymwysterau Ton 3
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi pecyn cynhwysfawr o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys cymwysterau TAAU, Sylfaen, y Gyfres Sgiliau a Phroject Personol.
Wedi'u datblygu mewn ymateb i adborth gan ganolfannau ledled Cymru, bydd yr adnoddau ar-lein dwyieithog hyn yn dechrau cael eu rhyddhau o hydref 2026, gyda'r gyfres lawn ar gael erbyn haf 2027. Gellir golygu'r holl ddeunyddiau addysgu, gan ganiatáu i athrawon addasu adnoddau i weddu i'w dysgwyr a'u dulliau addysgu.
![]() |
Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Melanie Blount, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adnoddau Addysgol: “Rydym yn falch iawn o fod yn datblygu pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau cefnogi i athrawon a dysgwyr ar gyfer ein cymwysterau newydd Ton 3. Trwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi gweithio'n agos gydag athrawon a dysgwyr i sicrhau bod yr adnoddau yn bodloni anghenion penodol pob cymhwyster ac yn cefnogi addysgu a dysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. |
Bydd yr adnoddau cyntaf ar gael o fis Hydref 2026, gyda deunyddiau newydd yn cael eu hychwanegu yn wythnosol. Bydd y dull graddol hwn yn sicrhau bod gan athrawon fynediad at gefnogaeth o ansawdd uchel wrth iddynt ddechrau cynllunio a chyflwyno'r cymwysterau hyn.
Rydym yn hyderus y bydd ehangder, dyfnder ac ansawdd y deunyddiau addysgu rhad ac am ddim hyn yn darparu cefnogaeth eithriadol i ganolfannau ledled Cymru.”
Amrywiaeth gynhwysfawr o adnoddau
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu amrywiaeth eang o ddeunyddiau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi addysgu a dysgu, gan gynnwys:
- Adnoddau Dysgu Cyfunol – sy'n darparu deunyddiau dysgu digidol hyblyg ar gyfer yr ystafell ddosbarth sy'n cefnogi astudio annibynnol, adolygu a chyflwyno dan arweiniad athrawon.
- Nodiadau athrawon – sy'n darparu gwybodaeth am y pwnc, arweiniad a syniadau addysgu i gefnogi cyflwyno'n effeithiol, yn enwedig i athrawon nad ydynt yn arbenigwyr.
- Taflenni gwaith – sy'n cynnig gweithgareddau a thasgau sy'n galluogi dysgwyr i ymarfer, cymhwyso ac atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau.
- Sgiliau a threfnwyr gwybodaeth – sy'n crynhoi'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen o fewn maes testun.
- Dogfennau canllawiau – sy'n darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i helpu athrawon a dysgwyr i gyflwyno cymwysterau ac ymgysylltu â nhw'n llwyddiannus.
- Cyflwyniadau PowerPoint – sy'n cynnig cynnwys addysgu a dysgu parod i'w ddefnyddio i gyflwyno, esbonio ac atgyfnerthu cysyniadau allweddol ar draws amrywiaeth o unedau.
Bydd rhagor o fanylion am yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer cymwysterau unigol yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, adnoddau newydd, digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi yn syth i'ch mewnflwch, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio.
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf sy'n ymwneud â'r cymwysterau newydd Ton 3, ewch i'n gwefan 'Gwneud-i-Gymru. Yn barod i'r byd’, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau cefnogi ac adnoddau.
