Pam dylech chi ymuno â'n tîm o awduron?

Pam dylech chi ymuno â'n tîm o awduron?

Yma yn CBAC, rydym yn cynnig amrywiaeth o rolau i athrawon/darlithwyr y gallant eu cwblhau ochr yn ochr â'u rôl o ddydd i ddydd. Wrth i ni baratoi i ddatblygu a chyflwyno cyfres newydd o gymwysterau TGAU i Gymru, mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn recriwtio awduron ac adolygwyr ychwanegol i helpu i ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn. Mae'r rolau cyffrous ac amrywiol hyn yn cynnig pecyn o fuddion, gan gynnwys y cyfle i wella dealltwriaeth o'r fanyleb ac arwain y gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd ac arloesol.

HOLI AC ATEB: Karen Vaughan Jones, awdur manyleb yn CBAC

Er mwyn deall mwy am ddod yn awdur a'r manteision sydd ar gael, rydym wedi siarad â’r awdur manyleb presennol, Karen Vaughan Jones, darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Soniwch rywfaint wrthym am eich profiad a'ch rôl?

Roeddwn i’n arfer gweithio gyda CBAC fel arholwr, ac yn ddiweddar ymunais â'r tîm o awduron sy'n cefnogi datblygu cymhwyster Lefel 3 newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel awdur, roeddwn yn gyfrifol am ddatblygu dwy uned ar gyfer y cymhwyster newydd, ac mae'r rôl wedi bod yn un amrywiol a diddorol.

Beth yw'r manteision?

Mae wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i mi ar sut mae cymhwyster yn cael ei lunio, a'r holl waith sy'n cael ei wneud i sicrhau ei fod yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i symud ymlaen.

Pan ymunais â'r tîm awduro i ddechrau, ychydig iawn o brofiad oedd gen i o ddatblygu cymwysterau. Ond er gwaethaf ei gymhlethdodau, mae'r tîm yn CBAC wedi fy arwain gyda chymorth defnyddiol ac ymatebol.

Dwi wedi sylwi bod fy mhrofiad addysgu yn cael ei werthfawrogi gan y tîm, yn enwedig fy nealltwriaeth o'r deunyddiau sy'n ddefnyddiol wrth ddarparu cymhwyster. Roeddwn yn ceisio ystyried yr hyn y byddwn i eisiau o safbwynt addysgu, dysgu ac asesu, ac roedd hyn yn llywio ein dull o awduro a datblygu deunyddiau cefnogi.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dod yn awdur?

Byddwn yn argymell yn gryf bod athrawon a darlithwyr yn ystyried dod yn awduron ar gyfer y Tîm Datblygu Cymwysterau. Mae'r rôl wedi gwella fy nealltwriaeth o'r cymhwyster mewn ffordd a fydd o fudd i'm myfyrwyr, wrth ehangu fy sgiliau personol fy hun.

I ddysgu mwy am ymuno â'n tîm o awduron, ewch i'n tudalen we recriwtio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â'n tîm heddiw:
datblygucymwysterau@cbac.co.uk

15/06/2023