Newidiadau i Ddatganiad Dilysu yr Ymgeisydd a'r Athro
Mae pob Sefydliad Dyfarnu y CGC yn cyflwyno Ffurflenni Datganiadau Dilysu yr Ymgeisydd a'r Aseswr wedi'u diweddaru ar draws pob cymhwyster ag unedau Asesu Di-arholiad.
Rhaid defnyddio'r ffurflenni wedi'u diweddaru ar gyfer pob asesiad a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Medi 2026. Mae hyn yn ofyniad gan y rheoleiddwyr a bydd methu â chydymffurfio yn arwain at ymchwiliad i gamymddygiad. Cynghorir canolfannau i ddinistrio unrhyw fersiynau blaenorol o’r templedi ffurflen datganiad dilysu y maent wedi'u lawrlwytho.
![]() |
Dyma ddywedodd Catherine Webster, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Darparu Cymwysterau Cyffredinol), Cyfarwyddiaeth Cymwysterau ac Asesu: “Wrth i AI barhau i ddatblygu, mae’n bwysig bod ein gofynion yn glir. Mae’n rhaid i fersiynau diweddaraf ffurflenni datganiad yr ymgeisydd a’r aseswr gynnwys geiriad wedi’i atgyfnerthu ynglŷn â’r defnydd o AI mewn Asesiadau di-arholiad, gan sicrhau bod ymgeiswyr, athrawon ac aseswyr yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni cyn dechrau asesiad di-arholiad. Bydd hyn yn eu helpu nhw i fynd i’r afael â’r broses gyda hyder ac uniondeb.” |
Gallwch ddysgu mwy am y newidiadau hyn yn ein cylchlythyr i ysgolion a cholegau, ar gael drwy’r Porth. Mae’r ffurflenni datganiad diweddaraf ar gael ar dudalennau’r cymhwyster perthnasol.
